Merched tim Rygbi Cymru

Llun uchod gan Asiantaeth Huw Evans / Undeb Rygbi Cymru

Undeb Rygbi Cymru yw corff llywodraethol rygbi'r undeb yng Nghymru. Mae Undeb Rygbi Cymru yn gyfrifol am redeg rygbi yng Nghymru, gan oruchwylio 320 o glybiau, tîm cenedlaethol Cymru a Chynghreiriau a Chwpanau Cenedlaethol.

Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n eu cynnig?

Rydym yn cynnig cylchlythyr misol dwyieithog yn ogystal ag adroddiad blynyddol dwyieithog. Rydym yn croesawu gohebiaeth Gymraeg ac yn sicrhau bod atebion yn cael eu darparu o fewn 24 awr. Mae gennym hefyd system ffôn ddwyieithog. O dymor 2026/27 ymlaen, bydd modd cofrestru chwaraewyr yn ddwyieithog.
Ar ddiwrnod gêm, rydym yn darparu canllawiau I'n cefnogwyr yn ddwyieithog. Mae’r Gymraeg yn amlwg ar ein tocynnau, ac rydym wedi cynyddu’r cynnwys dwyieithog yn ein rhaglenni swyddogol o 10% i 35%.

Rydym yn sicrhau bod cyhoeddiadau dros y system sain yn ein gemau a’n digwyddiadau ar gael yn ddwyieithog, ac rydym yn defnyddio cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth o Gymru yn ein digwyddiadau.
Yn Stadiwm Principality, mae teithiau dwyieithog ar gael, ac rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu am ddim i noddwyr a threfnwyr digwyddiadau trydydd parti. Mae prif ohebiaeth y Tîm Gweithredol, y Cyngor a’r Bwrdd at y clybiau yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog. 

Yn 2025, roedd 466 o erthyglau Cymraeg ar ein gwefan, ac fe gynhaliwyd 13 o gyrsiau wyneb yn wyneb yn ein clybiau yn Gymraeg. Rydym yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a Thafwyl, ac yn defnyddio’r Gymraeg ar ein gwaith dylunio a’n cyfryngau cymdeithasol.

Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant hyder Cymraeg i chwaraewyr. Yn fewnol, rydym yn cynnig gwersi Cymraeg am ddim i staff ac yn rhannu cerddoriaeth Gymraeg yn wythnosol ar ein mewnrwyd.

Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i’r sefydliad a’r sector chwaraeon yn gyffredinol?

Fel un o brif sefydliadau ein gwlad, mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o dderbyn y cyfrifoldeb a’r fraint o hyrwyddo’r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg.

Hoffwn ganmol y broses a’r gefnogaeth a gawsom wrth baratoi’r Cynllun Datblygu’r Gymraeg, ac rydym yn annog unrhyw gorff chwaraeon i fynd amdani.

Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?

Mae derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg wedi gosod fframwaith clir o dargedau ac uchelgeisiau sy’n ein cynorthwyo’n sylweddol i gynyddu a chysoni ein defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad.

Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?

Gan mai ein haelodau a’n clybiau sy’n berchen ar Undeb Rygbi Cymru, mae’n gwbl naturiol ein bod yn defnyddio’r Gymraeg. Mae hyn yn pwysleisio ein gwahaniaeth fel cenedl, sy’n bwysig iawn, ac yn cynnig cyfleoedd marchnata a masnachol.

Enghraifft ddiweddar o ddefnydd da o’r Gymraeg.

Wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg am ddim i Taylor Swift, fe siaradodd hi rywfaint o Gymraeg yn ei chyngerdd yn Stadiwm Principality, a chafodd hynny sylw 13.28 biliwn o weithiau ar y cyfryngau traddodiadol a’r cyfryngau cymdeithasol.

Fyddech chi’n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?

Heb amheuaeth, byddwn yn annog eraill i wneud hynny, gan fod y broses yn syml ac wedi cynnig gwir arweiniad a gwerth i ni fel Undeb Rygbi Cymru.

Cyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg.

Ewch amdani. Nid yw ein darpariaeth Gymraeg yn berffaith eto, ond gyda chymorth y Cynnig Cymraeg nid oes amheuaeth bod y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i’n cefnogwyr wedi cryfhau’n sylweddol.