Canolfan hamdden

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru (DSW) yn elusen sy’n helpu pobl anabl i gael budd o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan sicrhau bod pobl anabl yr un mor debygol o fwynhau gweithgarwch corfforol ag y mae pobl nad ydynt yn anabl.  

Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n eu cynnig?

Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau dwyieithog lle bynnag y bo modd. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu yn y Gymraeg ar draws ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol, a deunyddiau marchnata, yn ogystal â chyflwyno rhaglenni dwyieithog. Rydyn ni'n annog ac yn cefnogi staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd, ac rydyn ni'n sicrhau y gall cyfranogwyr ymgysylltu â'n gwasanaethau yn Gymraeg os ydyn nhw'n dewis. Rydyn ni'n falch o gefnogi'r sector trwy Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd sydd ar gael yn Gymraeg am ddim. 
 
Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i’r sefydliad a’r sector chwaraeon yn gyffredinol?

Mae'r iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o hunaniaeth a diwylliant Cymru. I ni, mae defnyddio'r Gymraeg yn ymwneud â chynhwysiant, parch, a chyfle. Yn y sector chwaraeon, gall iaith fod yn arf pwerus ar gyfer ymgysylltu a helpu unigolion i deimlo'n gyfforddus ac yn hyderus. Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn cefnogi cydlyniant cymunedol ac yn sicrhau bod chwaraeon yn wirioneddol hygyrch i bawb, yn eu dewis iaith.
 
Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd. 

Dechreuodd ein taith gydag ymrwymiad clir i gryfhau ein darpariaeth Gymraeg. Fe wnaethom asesu ein defnydd presennol o'r Gymraeg, nodi meysydd i'w gwella, ac ymgynghori â staff a rhanddeiliaid. O'r fan honno, fe wnaethom ddatblygu Cynllun Datblygu'r Gymraeg, gan nodi camau gweithredu ymarferol a nodau cyraeddadwy. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddi staff, cynyddu cynnwys dwyieithog cyson, ac ymgorffori'r Gymraeg yn ein rhaglenni. 
 
Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg? Beth yw’r budd i chi?

Roedd derbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg yn garreg filltir i ni. Mae'n dilysu ein hymrwymiad ac yn darparu fframwaith a chamau ar gyfer gwelliant parhaus. Mae hefyd yn arwydd i'n partneriaid, cyfranogwyr a chymunedau ein bod yn cymryd y Gymraeg o ddifrif. Mae'r broses wedi cryfhau ein diwylliant mewnol ac wedi rhoi mwy o hyder i ni wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
 
Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?

Mae cynnig gwasanaethau yn Gymraeg yn creu amgylchedd mwy cynhwysol a chroesawgar. I lawer, mae hefyd yn ymwneud â hunaniaeth – mae'r gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg yn rymusol ac yn ystyrlon.
 
Allwch chi rannu enghraifft ddiweddar o ddefnydd da o’r Gymraeg gyda ni?

Enghraifft ddiweddar o'n hymrwymiad i'r iaith Gymraeg yw ein presenoldeb mewn digwyddiadau diwylliannol allweddol ledled Cymru, gan gynnwys eisteddfod yr Urdd, Sioe Frenhinol Cymru, a Tafwyl. Mae'r digwyddiadau hyn yn ganolog i ddiwylliant Cymru ac yn darparu llwyfan delfrydol i sicrhau bod chwaraeon cynhwysol yn weladwy, yn hygyrch, ac yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Ym mhob digwyddiad, fe wnaethom greu mannau gweithgaredd croesawgar a chynhwysol lle gallai pobl anabl o bob oed gymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon a gweithgaredd corfforol a gyflwynir yn ddwyieithog, gyda'r Gymraeg yn chwarae rhan flaenllaw. 

Enghraifft arall yw datblygiad parhaus ein hadnodd hyfforddi tair ieithog. Wedi'i gynllunio i gefnogi hyfforddi cynhwysol ledled Cymru a thu hwnt, mae'r adnodd hwn ar gael yn y Gymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain - gyda chyfieithiadau darllen yn uchel a ffonetig. Mae’r adnodd yn sicrhau fod yr iaith yn cael ei gosod yn uniongyrchol 'ar y cae' gydag hyfforddwyr a chyflwynwyr ledled Cymru. Mae'n galluogi hyfforddwyr i gyflwyno sesiynau yn y tair iaith gyda mwy o hyder.
 
Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?

Bendant. Mae'r broses yn wych ac yn effeithiol. Mae'n helpu sefydliadau i fyfyrio ar eu harferion, ymgysylltu'n fwy ystyrlon â chymunedau, a chyfrannu at dwf yr iaith Gymraeg.
 
Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?

Dechreuwch yn fach a byddwch yn realistig. Edrychwch ar le rydych chi nawr ac adeiladwch o’r fan honno. Ymgysylltwch â’ch tîm ehangach a chreu amgylchedd cefnogol i ddysgu Cymraeg neu i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg. Gofynnwch am arweiniad pan fo angen a chofiwch fod pob cam ymlaen yn gwneud gwahaniaeth - edrychwch arno fel cyfle i gryfhau a rhannu eich rhaglenni â chynulleidfa ehangach.