- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg yn gallu teimlo’n swydd ddigon unigryw, ac os ydi rhywun yn holi beth rydw i’n ei wneud fel gwaith, mae’n gallu bod yn anodd egluro ar un gwynt.
‘Gweithio i’r llywodraeth wyt ti felly?’
‘Wel, na, dim cweit. Mi ydan ni’n annibynnol o Lywodraeth Cymru, er mai’r Llywodraeth sy’n penodi’r Comisiynydd, a gweithredu deddf y Llywodraeth ydan ni’n ei wneud.’
‘Ydi o’n debyg i weithio i ombwdsmon felly?’
‘Wel... yndi a nacdi. Mi ydan ni’n derbyn cwynion ac yn cynnal ymchwiliadau... ond dim ond rhan o’r gwaith ydi hynny. ’Dani hefyd yn rheoleiddio, yn dylanwadu ar bolisi, yn cefnogi busnesau, yn cynnig cyngor ymarferol, yn safoni enwau lleoedd, ac yn monitro sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru.’
Yn Galway ddechrau Medi, fodd bynnag, doedd dim angen egluro beth ydi gwaith Comisiynydd y Gymraeg nac argyhoeddi neb o bwysigrwydd ac arwyddocâd y gwaith hwnnw. A doedd ein sefydliad na’n sefyllfa ni’n unigryw wrth i gomisiynwyr iaith o bob cwr ddod ynghyd ar gyfer Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith. Pob un yn rhannu’n un weledigaeth, yr un heriau a’r un ymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo eu hieithoedd. Dyma oedd nawfed cynhadledd y Gymdeithas; cynhaliwyd hi ddiwethaf yng Nghaerdydd yn 2024 lle dathlwyd pen-blwydd y Gymdeithas yn 10 oed. Ond tro’r Gwyddelod oedd hi eleni i wahodd aelodau’r Gymdeithas atyn nhw i’r ‘City of Tribes’, i Gaillimh neu Galway. Â baneri gwledydd y byd yn hongian uwch rai o brif strydoedd y ddinas (a baner Cymru yn eu plith!), roedd y croeso’n gynnes a’r ddinas yn amlwg yn cofleidio ei byd-olwg rhyngwladol.
Mae gan Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith bellach 16 o aelodau, rhai yn gomisiynwyr iaith ac eraill yn ombwdsmyn â chyfrifoldeb penodol dros warchod hawliau ieithyddol. Roedd y gynhadledd eleni yn gyfle i groesawu dau aelod newydd, dau gomisiynydd newydd sbon i Ogledd Iwerddon – un yn Gomisiynydd y Wyddeleg yno a’r llall yn Gomisiynydd ar gyfer Ulster Scots. A chafwyd cyflwyniad difyr iawn i’r sefyllfa ieithyddol yng Ngogledd Iwerddon gan Pól Deeds, Comisiynydd y Wyddeleg.
Rydym ni’n aml iawn yn cyfeirio at Fesur y Gymraeg (2011) fel y ddeddfwriaeth a roddodd statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru am y tro cyntaf wrth roi cyd-destun i’n gwaith ni. A dyna fan cychwyn cyflwyniad Pól Deeds hefyd wrth iddo gyfeirio at yr Identity and Language (Northern Ireland) Act 2022 lle mae cymal yno sy’n cydnabod statws y Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon ac sy’n sefydlu swydd Comisiynydd y Wyddeleg. Cyfeiriodd hefyd at ganlyniadau arolwg diweddar ar agweddau pobl at y Wyddeleg gan nodi’n falch nad oedd dim gwrthwynebiad tuag at yr iaith ymhlith pobl ifanc 18–24 oed yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd ennyn agweddau cadarnhaol tuag at y Wyddeleg yn rhywbeth y pwysleisiodd Tomás Ó Siocháin, Prif Weithredwr Asiantaeth Datblygu Ardaloedd y Ghaeltacht, hefyd wrth iddo nodi arwyddocâd y ffaith i’r actorion Cillian Murphy a Jessie Buckley ddweud gair o ddiolch mewn Gwyddeleg yn eu hareithiau yn seremonïau’r Oscars. A daethom ninnau’n ôl o Galway i weld Mathew Rhys yn gwneud yr un fath yn Gymraeg yng ngwobrau’r Emmy.
Nid agweddau cadarnhaol y cyhoedd oedd yr unig beth a’m tarodd i chwaith; llawn mor bwysig yw agweddau’r comisiynwyr eu hunain. Roedd comisiynwyr Canada yn herio aelodau’r Gymdeithas i fod yn hyderus yn statws ddeddfwriaethol eu rolau ac i ymagweddu’n gadarnhaol tuag at dderbyn cwynion gan eu bod yn dangos yn glir lle mae’r bylchau. Soniodd Kelly Burke, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada, am sut yr ai ati i ymdrin â methiannau cydymffurfio mewn ffordd bragmatig drwy ofyn pedwar cwestiwn:
- Ai diffyg ewyllys i gydymffurfio sydd wrth wraidd y broblem?
- Ai diffyg capasiti?
- Ydi’r sefydliad yn deall ei ddyletswyddau statudol?
- Ac yn olaf, a yw’n gwybod sut i’w cyflawni?
Cyfeiriodd hefyd at y ddyletswydd foesol sydd ar sefydliadau i gydnabod bod ieithoedd swyddogol Canada yn rhan annatod o hunaniaeth y wlad honno sydd mor enwog am fod yn glytwaith gwych o ddiwylliannau gwahanol.
Lansiwyd y gynhadledd y noson gynt yn y Theatr Wyddeleg Genedlaethol lle cafwyd anerchiad gan Éamon Ó Cuív, y cyn-weinidog oedd yn gyfrifol am Ddeddf Ieithoedd Swyddogol Iwerddon. Clywsom hefyd gan y bardd Gwyddelig, Louis de Paor, a adroddodd ambell gerdd, gan gynnwys un oedd yn gyfieithiad llac o gerdd gan fardd o Armenia a gafodd ei ddadleoli yn ystod yr hil-laddiad Armenaidd yn 1915. Byrdwn y gerdd oedd mai’r iaith Armenaidd yw cartref yr Armenwr, a gallai Louis de Paor uniaethu â’r teimlad hwnnw yng nghyd-destun y Wyddeleg. Gallwn innau uniaethu â’r teimlad hwnnw wrth feddwl am y Gymraeg: gall iaith fod yn llawer mwy na dim ond ffordd o gyfathrebu.
Mae cynhadledd fel hyn yn gyfle i rannu syniadau a dysgu oddi wrth ein gilydd, wrth reswm, ond mae hefyd yn gyfle i gysylltu ag ieithoedd a diwylliannau eraill ac i weld ein gwaith mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae’n gyfle i aildanio’r brwdfrydedd hwnnw dros achos ein gwaith, sy’n gallu pylu’n ddigon naturiol wrth i waith dydd i ddydd ddod yn rhan o’r drefn arferol. Mae’n gyfle i’n hatgoffa ni ein bod yn gwneud gwaith pwysig i warchod iaith sydd mor annwyl i ni. Felly tro nesaf bydd rhywun yn gofyn imi be rydw i’n ei wneud fel gwaith, mi ateba’ i’n hyderus:
‘Dwi’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Tisho gwbod mwy?’