logo

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dymuno deall rhagor am ble mae oedolion yng Nghymru (16 oed a hŷn) yn defnyddio’r Gymraeg, sut maen nhw’n teimlo am yr iaith, a faint o gyfleoedd sydd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Cynhelir yr arolwg hwn gan Beaufort Research, asiantaeth Ymchwil Marchnad annibynnol, ar ran Comisiynydd y Gymraeg.

Dylai'r arolwg gymryd llai na 10 munud i'w gwblhau.

Bydd y wybodaeth a ddarperwch yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn ddienw gan Beaufort Research a byddwn yn crynhoi ac yn rhannu’r ymatebion â Chomisiynydd y Gymraeg. Ni fydd Comisiynydd y Gymraeg yn gwybod pwy sydd wedi cymryd rhan. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hysbysrwydd preifatrwydd.