Osian Llywelyn recording a podcast

Osian Llywelyn, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg sy’n trafod y gwaith o ddatblygu a gwreiddio dull o gyd-reoleiddio, a’r camau sy’n cael eu cymryd i roi hyn ar waith yn 2024.   

Gallwch wrando ar bodlediad a recordiwyd gan Osian a Hanna Hopwood yma a darllen y blog isod.

Gweledigaeth Comisiynydd y Gymraeg yw Cymru lle gall pobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. 

Ar ddiwedd 2023 fe wnaethom gynnal ymgyrch newydd – ymgyrch oedd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd ac yn cynnig cyfle i sefydliadau hybu a hyrwyddo’r gwasanaethau Cymraeg maent yn eu darparu i’r cyhoedd. Mae’r anogaeth hyn yn un elfen o’n gwaith ond os ydym am hybu hyder defnyddwyr y Gymraeg yn y gwasanaethau y maent yn eu derbyn, a chynyddu defnydd o wasanaethau Cymraeg, mae cynnal cyfundrefn reoleiddio gadarn ac effeithiol yn angenrheidiol. 

Gwn fod cryn dipyn o drafodaeth gyhoeddus wedi bod ar sut orau i gyflawni’r weledigaeth hon, ac am yr angen i daro'r cydbwysedd cywir rhwng rheoleiddio dyletswyddau sy'n ymwneud â'r Gymraeg a hybu a hyrwyddo’r iaith. Ymhlyg yn y drafodaeth hon mae’r awgrym bod y naill beth yn gwbl annibynnol o’i gilydd. Rwy’n credu’n gryf bod hynny’n gor-symleiddio’r sefyllfa. Dylid edrych ar reoleiddio a hybu fel elfennau sy’n gysylltiedig.  

Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod ni, fel unrhyw reoleiddiwr arall, yn adolygu ein dulliau gweithredu’n barhaus er mwyn sicrhau y canlyniadau gorau posib i ddefnyddwyr y Gymraeg.  

Rydym eisoes yn gosod disgwyliadau ar gyrff cyhoeddus i ddarparu ystod o wasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel i bobl Cymru eu defnyddio, a byddwn yn parhau i gymryd camau rheoleiddio gan ddwyn sefydliadau i gyfrif lle nad yw hynny’n digwydd yn ddigonol.  

Ond rwy’n credu y bydd defnyddwyr y Gymraeg yn elwa’n sylweddol os allwn ymwneud â, ac ymgysylltu’n fwy effeithiol gyda'r rhai yr ydym yn eu rheoleiddio. Drwy hyn, ein gobaith yw y gallwn annog diwylliant agored a thryloyw, a chynnig cefnogaeth ac arweiniad clir iddynt. 

Y themau allweddol 

Thema 1: Ffocws gynyddol ar ddeilliannau yn hytrach na phrosesau 

Thema 2: Datblygu ymhellach strategaeth wirioneddol rhagweithiol 

Thema 3: Blaenoriaethu ein gwaith rheoleiddio 

Thema 4: Hwyluso ein gwaith ymchwilio a gorfodi 

Ar ddechrau’r flwyddyn aethom ati i gasglu barn ac adborth gan sefydliadau ar ein gwaith rheoleiddio, er mwyn deall yn well pa agweddau ar ein gwaith oedd fwyaf gwerthfawr iddynt, ac arwydd o'r hyn yr hoffent weld mwy ohono.  

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i'r holl bobl sydd wedi manteisio ar y cyfle i rannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u barn gyda ni  – mae’n adborth defnyddiol iawn i'n helpu ni i ddeall mwy am yr hyn sy’n gweithio, yr hyn y gallwn ei wneud yn wahanol, a 

dwi am gymryd y cyfle yma i ddweud diolch yn fawr. 

Thema 1: Ffocws gynyddol ar ddeilliannau 

Mae’n hanfodol ein bod yn gosod ein gwaith rheoleiddio yng nghyd-destun y weledigaeth genedlaethol o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd yr iaith.  

Mae angen i ni fod yn rheoleiddio gyda phwrpas penodol a strategol, gan fod yn glir iawn am yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni yn y pendraw. Bydd hyn yn llywio ein gwaith rheoleiddio, ein hymagwedd a’r penderfyniadau y byddwn yn eu cymryd. 

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn mynd ati i ddatblygu a gosod deilliannau rheoleiddio clir yn ystod 2024. Ein bwriad wrth gyflwyno’r deilliannau yma yw iddynt, ymysg pethau eraill: 

  • gosod Safonau’r Gymraeg a’n gwaith rheoleiddio yng nghyd-destun y weledigaeth genedlaethol o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd yr iaith 
  • darparu datganiadau tryloyw cyhoeddus o'r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni, a sut y byddwn yn gallu dangos pan fyddwn wedi ei gyflawni 
  • sicrhau bod ein gweithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr y Gymraeg ac yn cael y traweffaith mwyaf ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a 
  • lliniaru’r risg bod sefydliadau yn canolbwyntio ar gydymffurfiaeth caeth yn hytrach na chanlyniadau da i ddefnyddwyr y Gymraeg.  

Yn gyson â’n dull o gyd-reoleiddio, ein bwriad yw i'r deilliannau hyn gynrychioli nodau ac amcanion cyffredin Comisiynydd y Gymraeg, sefydliadau cyhoeddus a defnyddwyr y Gymraeg, a’n bod ni gyd yn eu perchnogi. 

Thema 2: Datblygu ymhellach strategaeth wirioneddol rhagweithiol 

Un o flaenoriaethau ein cynllun strategol presennol yw i weithredu strategaeth rheoleiddio gwirioneddol rhagweithiol.  

Rydym eisoes yn gwneud llawer o waith rhagweithiol – mae hynny’n cynnwys cyhoeddi canllawiau a chyngor, yn ogystal ag astudiaethau o arferion effeithiol gan sefydliadau – ond mi allwn fynd ymhellach. Er enghraifft, mae lle i ni weithio gyda sefydliadau i nodi a dadansoddi risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, a datblygu rheolaethau er mwyn lliniaru'r risgiau hynny. 

Gyda hynny mewn golwg ein bwriad yw datblygu a chyhoeddi rhaglen flynyddol i gefnogi sefydliadau wrth iddyn nhw gydymffurfio â safonau’r Gymraeg.  

Bydd y rhaglen hon yn gyfuniad o seminarau wyneb yn wyneb, gweminarau rhithiol, cyfarfodydd briffio a chylchlythyrau, ac yn galluogi sefydliadau i ddod at ei gilydd i drafod materion systemig, datblygu atebion a lledaenu arfer da. Bydd hefyd yn gyfle i ni rannu gwybodaeth ac i adnabod unrhyw ganllawiau neu gymorth pellach sydd ei angen arnynt.  

Yn ogystal a chefnogi’r sefydliadau hynny sydd eisoes yn gweithredu safonau’r Gymraeg, byddwn yn cynnal rhaglen ymbaratoi ar gyfer y sefydliadau hynny a fydd yn dod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg yn ystod y cyfnod nesaf.  

Thema 3: Blaenoriaethu ein gwaith rheoleiddio  

Er mwyn sicrhau bod ein ffocws ar y deilliannau pwysicaf, mae hefyd yn bwysig i ni ganolbwyntio ar y meysydd allweddol. Mae ein fframwaith rheoleiddio presennol yn nodi y byddwn yn defnyddio risg er mwyn rheoli’r defnydd o amser ac adnoddau, gan ganolbwyntio ar waith a fydd yn cael y traweffaith fwyaf ar gydymffurfiaeth.  

Byddwn yn cryfhau ein hymdrechion i weithredu’r dull hwn yn ystod 2024. 

Un o’n nodau cyson yw i gynyddu cyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac mae angen sicrhau fod sefydliadau yn ystyried yr effaith ieithyddol yn llawn pan yn datblygu a gweithredu polisïau.  

Yn dilyn gwrandawiad ym mis Gorffennaf 2023, cadarnhaodd Tribiwnlys y Gymraeg bod disgwyl i sefydliadau roi ystyriaeth gydwybodol i unrhyw benderfyniadau polisi, gan adnabod y ffactorau perthnasol a’u heffaith ar y Gymraeg. Rhaid iddynt hefyd gynnwys digon o wybodaeth mewn dogfennau ymgynghori am effeithiau posib eu cynigion ar y Gymraeg, fel y gall y cyhoedd eu hystyried ac ymateb yn ddeallus iddynt. 

Fel rhan o’n gwaith eleni, byddwn yn gofyn i sefydliadau am wybodaeth benodol a manwl ynghylch unrhyw gamau y maent wedi gymryd i adolygu ac addasu ei trefniadau i asesu effeithiau unrhyw benderfyniadau polisi ar y Gymraeg yn sgil y dyfarniad pellgyrhaeddol hwn.   

Bydd ein ffocws hefyd ar y safonau hynny rydym yn ystyried yn strategol bwysig. Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd; y dyletswyddau hybu sydd wedi’u gosod ar awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol yn ogystal â chynlluniau 5 mlynedd byrddau iechyd i gynyddu eu gallu i gynnal ymgynghoriadau clinigol drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Thema 4: Hwyluso gwaith ymchwilio a gorfodi 

Mae Mesur y Gymraeg yn cynnig nifer o gamau posibl i’r Comisiynydd eu cymryd i adfer cydymffurfiaeth.  

Wrth benderfynu ar pa gamau i’w cymryd, mae’n bwysig ein bod yn gweithredu mewn ffordd sy’n canolbwyntio adnoddau ar weithgareddau fydd yn cyflawni’r budd mwyaf. 

Gyda hynny mewn golwg, mae potensial i ni fod yn ymdrin â chwynion a materion cydymffurfiaeth yn fwy effeithiol, gan osgoi’r angen i gynnal ymchwiliadau ble gellir adfer cydymffurfiaeth drwy ddulliau eraill.  

Er enghraifft, gallwn rymuso sefydliadau i ymdrin â chwynion yn uniongyrchol lle bo methiannau’n digwydd, gan roi cyfle iddynt ddatrys a chywiro pethau heb fod angen i ni ymyrryd.  

Ni fyddai hyn yn ein rhwystro i gynnal ymchwiliad i gŵyn yn syth, a gosod camau gorfodi priodol os yw amgylchiadau unigol y gŵyn yn gofyn am hynny. Er enghraifft, lle bo cwyn yn codi amheuaeth o fethiant difrifol neu’n gofyn am weithredu brys. 

Ond drwy gryfhau effeithiolrwydd ein polisïau a’n prosesau ymchwilio, gallwn ganolbwyntio fwy ar ganlyniadau’r gwaith, gwneud mwy o waith rhagweithiol, a blaenoriaethu’r meysydd arwyddocaol rwyf wedi tynnu sylw atynt.  

Rydym wrthi’n ystyried ac archwilio pa newidiadau sydd eu hangen, a byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu adborth ar unrhyw  newidiadau yn ystod y gwanwyn.   

Symud ymlaen gyda’n gilydd 

Wrth gwrs, dim ond cipolwg yw hwn ar y gwaith y byddwn yn ymgymryd ag ef fel rhan o’n dull o gyd-reoleiddio i’r dyfodol. Ond rwy’n gobeithio ei fod yn cynnig blas i chi o’r mathau o weithgareddau y byddwn yn eu cynnal yn ystod y flwyddyn i ddod, a’i fod yn arwydd pendant o’n hawydd i weithio gyda sefydliadau er mwyn cyrraedd y nod – darparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel a galluogi pobl Cymru i ddefnyddio’r iaith yn y gwaith ac yn eu bywyd o ddydd i ddydd.