Logo Comisiynydd y Gymraeg

Mae angen cryfhau rôl strategaethau hybu'r Gymraeg fel ffordd o gynllunio a chydlynu ymdrechion lleol i gynyddu defnydd o'r Gymraeg a sicrhau ei bod yn ffynnu mewn cymunedau ledled Cymru. Dyna fydd un o’r prif negeseuon mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw (Iau, 24 Medi).  

Caiff y gynhadledd ei chynnal ar y cyd rhwng Comisiynydd y Gymraeg a Mentrau Iaith Cymru gyda’r nod o edrych ar effaith y strategaethau hyd yn hyn, a sut y gellir eu cryfhau i’r dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi ei hymrwymiad i adolygu’r safonau hybu. O dan y safonau hynny, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol lunio a gweithredu strategaethau 5-mlynedd ar gyfer hybu’r Gymraeg.  

Bydd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan AS yn annerch y gynhadledd ac yn amlinellu’r camau nesaf yn y broses honno.  

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae’n amserol i gynnal y drafodaeth hon, 

“Mae'r strategaethau hybu yn cynnig cyfle unigryw i sefydliadau allweddol edrych y tu hwnt i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ac ystyried eu rôl ehangach wrth gefnogi'r Gymraeg fel iaith gymunedol, gymdeithasol ac economaidd. 

“Yn fy adroddiad pum mlynedd diweddaraf, nodais fy mod yn gweld cyfle i gryfhau'r fframwaith sy'n sail i'r strategaethau hyn. Mae hynny'n adlewyrchu fy marn bod potensial y strategaethau fel arf cynllunio ieithyddol cymunedol heb ei wireddu'n llawn eto. 

“Ond rwy'n credu'n gryf fod y strategaethau hyn yn cynnig cyfle gwirioneddol bwysig i greu newid ymarferol. Nid oes un ateb syml i gynyddu defnydd o'r Gymraeg, ond mae'r strategaethau hyn yn rhoi sail i sefydliadau, cymunedau a phartneriaid lleol weithio gyda’i gilydd i greu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd." 

“Y gobaith yn y gynhadledd yw y gallwn, gyda’n gilydd, adnabod ffyrdd newydd o gryfhau’r gwaith hwn fel bod adnoddau priodol yn cael eu defnyddio yn fwy effeithiol er lles a thwf cymunedau ac yn arwain at fwy o gyfleoedd i bobl weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg yn ein cymunedau.”  

Bydd yn agos at 150 o gynrychiolwyr sefydliadau o Gymru yn bresennol yn y gynhadledd gyda phob un ohonynt yn gweithio i wella’r ddarpariaeth Gymraeg yn eu gwahanol ardaloedd. 

Yn ôl Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, mae’n gyfle i rannu syniadau ac i ddatblygu cyfleoedd cydweithio pellach, 

“Mae’r strategaethau hybu yn chwarae rôl greiddiol yn ein gwaith fel mentrau ar lawr gwlad ac yn cynnig fframwaith bwrpasol ar gyfer cynllunio ieithyddol cymunedol. Mae’n braf nodi fod cydweithio ymarferol yn digwydd rhyngom ni ag awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn gwireddu potensial y gwaith hyn ac rwy’n awyddus i hwnnw ddatblygu ymhellach. 

“Ond mae yn amserol i ni adolygu’r gwaith sydd wedi mynd rhagddo ac i adnabod llwybr i’r dyfodol a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf er lles y Gymraeg. Mae’n braf felly gallu gweithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd y Gymraeg i gynnal y gynhadledd hon a dod â chymaint o sefydliadau at ei gilydd sydd yn anelu at yr un nod.” 

Bydd y gynhadledd hefyd yn trafod y berthynas rhwng strategaethau hybu'r Gymraeg a'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan bwysleisio'r angen i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd ystyrlon i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth. 

Un a fydd yn cymryd rhan yn y gynhadledd fydd Annwen Morgan, Cadeirydd Annibynnol Fforwm Iaith Ynys Môn. Ymysg yr hyn mae nhw wedi datblygu er mwyn hybu’r Gymraeg y mae creu ac hyrwyddo ap Ogi Ogi sy’n rhai gwybodaeth a chyngor i rieni newydd ac yn fwy diweddar cynhaliodd un o is grwpiau’r Fforwm ddigwyddiad gyda phartneriaid er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg i blant a’u teuluoedd. 

Mae Annwen yn credu fod y gynhadledd yn gyfle pwysig i rannu profiadau, 

“I ni yn sir Fôn mae’r strategaeth hybu wedi bod yn gymorth o ran gosod cyfeiriad clir i’n gwaith wrth hyrwyddo’r iaith ar yr ynys. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Fenter Iaith er mwyn sicrhau fod adnoddau yn cael eu defnyddio yn briodol ac yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.  

“Mae’r gynhadledd hon yn gyfle i nodi yr hyn sydd wedi llwyddo, rhannu ein syniadau ac i ddysgu gan eraill wrth i ni ystyried datblygu ein cynlluniau i’r dyfodol.”   

Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd heddiw, Iau, 24 Medi yn stadiwm dinas Caerdydd.