Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd angen i gyrff rheoleiddio proffesiynau iechyd gydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg erbyn diwedd y flwyddyn.

Bydd hyn yn galluogi aelodau o’r proffesiwn iechyd megis meddygon, nyrsys a deintyddion i gofrestru gyda’r sefydliadau hyn drwy’r Gymraeg. Yn ogystal bydd yn cynnig hawliau iddynt o ran achosion cyfreithiol,a gall arwain at osod safonau gwasanaethau a gweithredu pellach.

Dyma fydd y tro cyntaf i Efa Gruffudd Jones osod safonau’r Gymraeg ar gyrff ers cychwyn yn ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg yn gynharach eleni. Dyma hefyd y tro cyntaf y mae’r Comisiynydd wedi gallu ehangu hawliau drwy’r gyfundrefn safonau ers 2019 yn dilyn cymeradwyo’r Rheoliadau newydd gan Senedd Cymru ar 31 Hydref 2022.

Y naw corff a fydd yn ddarostyngedig i’r Safonau yw:

  • Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol
  • Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
  • Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Y Cyngor Optegol Cyffredinol
  • Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
  • Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg,

“Nod y Safonau yw sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru a bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hybu a’i hwyluso’n amlwg. Ym  maes iechyd mae’n hollbwysig fod pobl yn cael cynnig derbyn gwasanaeth yn eu dewis iaith ac mae’r cam hyn heddiw o roi hysbysiad cydymffurfio i gyrff rheoleiddio’r proffesiynau iechyd yn ehangu’r hawliau i weithwyr y sector.

“Er mwyn i'r Gymraeg oroesi ac iddi fod yn iaith fyw y gellir ei defnyddio’n ddyddiol, mae angen iddi gael ei gweld yn amlwg ymhob maes gwaith o fewn ein cymunedau ac o fewn sectorau gwahanol.

“Hoffwn ddiolch i’r cyrff rheoleiddio am eu parodrwydd i gydweithio â ni wrth baratoi ar gyfer y cyfnod newydd hwn a byddwn yn eu cynorthwyo a’u cynghori ar ran nesaf y daith.”

Dywedodd Andrea Sutcliffe, Prif Weithredwr a Chofrestrydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC),

“Pobl sydd wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ac mae’n hanfodol bod pawb yn gallu ymgysylltu â ni ac elwa o’n rôl – amddiffyn y cyhoedd trwy gynnal safonau uchel o waith nyrsio a bydwreigiaeth y mae gan bawb yr hawl i’w disgwyl.

“Trwy weithredu’r safonau newydd hyn, byddwn yn sicrhau bod cefnogaeth i siaradwyr Cymraeg i rannu eu profiadau o ofal nyrsio a bydwreigiaeth gyda ni, a chael mynediad at y wybodaeth a’r adnoddau allweddol sy’n eu helpu i ddeall ein rôl a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw. Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â Chomisiynydd y Gymraeg wrth i’r safonau newydd gael eu gweithredu.”

Yn dilyn proses statudol mae’r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio ar naw corff rheoleiddio proffesiynau iechyd, sy’n gosod dyletswyddau ar gyfer y Gymraeg a daw hyn yn weithredol o fis Rhagfyr 2023.