Logo

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg sydd yn ystyried cymunedau â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg. 

Mewn ymateb dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, 

“Hoffwn yn gyntaf nodi fy mod yn croesawu’r adroddiad yn fawr ac yn diolch i’r Comisiwn am y gwaith sylweddol sydd wedi ei wneud wrth baratoi yr adroddiad swmpus hwn.  

“Hoffwn hefyd ategu yr hyn sydd yn cael ei bwysleisio drwy gydol yr adroddiad sef bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, a thu hwnt lle bo hynny’n berthnasol, ac y dylid sicrhau mynediad teg at y Gymraeg o safbwynt gwasanaethau a gweithgareddau cymunedol lle bynnag rydych yn byw yng Nghymru. 

“Mae’n braf gweld fod nifer o'r prif argymhellion yn adleisio yr hyn rydym ninnau wedi ei nodi yn ein maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru ac yn fwy diweddar yn ein hadroddiad 5-mlynedd. 

“Mae’r galwadau penodol am gryfhau cynllunio ieithyddol cymunedol ynghyd â’r pwyslais ar ddatblygu gweithleoedd sy’n caniatáu i’r iaith ffynnu yn feysydd rydym ni yn awyddus iawn i fynd i’r afael â hwy. Fel i ni nodi yn ein hadroddiad 5-mlynedd mae’r rheiny yn feysydd lle gellir, o gael y buddsoddiad priodol, wneud gwahaniaeth sylweddol i dwf a hyfywedd yr iaith Gymraeg yn y tymor hir.  

“Rydym hefyd yn croesawu’r pwyslais ar sicrhau bod y Gymraeg yn iaith weledol.  

“Hoffwn annog llywodraeth nesaf Cymru i roi ystyriaeth fanwl i’r adroddiad hwn ac i weithredu ar yr argymhellion yn fuan yn nhymor nesaf y Senedd a hynny er lles tymor hir y Gymraeg a’n cymunedau ar draws Cymru. 

“Rwyf innau fel Comisiynydd y Gymraeg a fy staff yn barod ac yn awyddus i chwarae ein rhan wrth eu gwireddu.”