Panel ein digwyddiad yn yr eisteddfod

Mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, ym Mhontypridd, bydd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio yn amlinellu gweledigaeth y Comisiynydd ar gyfer y cyfnod nesaf.  

Bydd yn trafod y dull o gyd-reoleiddio, ynghyd â’r bwriad i gyflwyno deilliannau sy’n cynrychioli nodau ac amcanion cyffredin Comisiynydd y Gymraeg, sefydliadau cyhoeddus a defnyddwyr y Gymraeg.  

I gyd-fynd â’r digwyddiad mae’r Comisiynydd hefyd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sydd yn rhoi trosolwg o sut mae sefydliadau sydd yn dod o dan safonau’r Gymraeg yn cydymffurfio â’u dyletswyddau iaith. 

Yn ôl Osian Llywelyn mae lle i ymfalchïo yn y cynnydd sydd wedi ei weld dros y flwyddyn ddiwethaf, 

“Mae’n braf gallu adrodd bod lefelau cydymffurfiaeth sefydliadau cyhoeddus sy’n gweithredu safonau’r Gymraeg yn gwella. Mae nifer cynyddol yn darparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd ar bob achlysur. Mae hefyd yn galonogol gweld fod y sector iechyd, ar ôl sawl blwyddyn o berfformio’n is na sectorau eraill, yn gwneud cynnydd da mewn nifer o wasanaethau allweddol. 

“Wedi dweud hynny, mae gwaith pellach i’w wneud os ydym am wireddu ein gweledigaeth o Gymru lle gall pobl fyw yn Gymraeg. Mae angen i sefydliadau wella ymwybyddiaeth pobl o'r gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg gan eu hannog i fanteisio arnynt a’u defnyddio. 

“Drwy osod deilliannau penodol mae’n caniatau i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar yr hyn fydd yn cynnig y traweffaith mwyaf. Mae hefyd yn golygu y gallwn ystyried cydymffurfiaeth sefydliadau yng nghyd-destun y weledigaeth genedlaethol o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd yr iaith.” 

Cynhelir y digwyddiad heddiw, (Llun, 5 Awst) ym Mhabell y Cymdeithasau am 11 o’r gloch. Yn ymuno ag Osian i drafod cyd-reoleiddio’n effeithiol fydd cynrychiolwyr o Gyngor Rhondda Cynon Taf, Grŵp Llandrillo Menai a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ynghyd â Chomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones.  

Y cyflwynydd a’r ddarlledwraig Betsan Powys fydd yn cadeirio’r digwyddiad. 

Yn ôl un o aelodau’r panel, Ben Screen, Arweinydd Strategol y Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mae’r hyn y mae’r Comisiynydd yn ei wneud i’w groesawu, 

“Rwy’n derbyn yn llwyr fod angen i’r sefydliadau sydd yn dod dan y safonau eu gweithredu yn llawn. Mae hefyd angen arweiniad a chyngor gan y Comisiynydd. Mae’r dull o gyd-reoleiddio sydd wedi ei roi ar waith yn awgrymu ffordd cynhwysol a chydweithredol o weithredu.  

“Mae’r deilliannau sydd bellach wedi eu cyflwyno yn cynnig arweiniad clir am yr hyn sydd yn ddisgwyliedig ac yn pwysleisio mai proses barhaus yw hon lle bydd angen gweld gwelliant a chynnydd cyson.” 

O’r sefydliadau a arolygwyd mae ffigyrau’r adroddiad yn nodi fod: 

  • 90% o dudalennau gwe bellach yn Gymraeg 
  • 89% o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol ar gael yn Gymraeg  
  • 78% o ymholiadau yn cael eu hateb yn Gymraeg 
  • 88% o ohebiaeth wedi eu hateb yn Gymraeg 
  • 84% o hysbysebion swyddi ar gael yn Gymraeg 

Bydd gan Gomisiynydd y Gymraeg stondin ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ac mae croeso i unrhyw un alw heibio am sgwrs neu i ofyn cwestiwn. Bydd cyfres o weithgareddau yn cael eu cynnal yno drwy’r wythnos. Ewch i’r wefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i wybod mwy am yr hyn fydd yn digwydd.