- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd yr Wyddeleg Gogledd Iwerddon wedi codi pryderon am effeithiau toriadau’r BBC ar wasanaethau ieithoedd lleiafrifol. Mae Efa Gruffudd Jones a Pól Deeds yn pwysleisio fod darlledu yn chwarae rhan hollbwysig wrth hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol ar draws y byd ac mae hynny dan fygythiad yn sgil cyhoeddiadau diweddar y BBC.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae angen peidio seilio penderfyniadau ar werth am arian yn unig,
“Mae darlledu Cymraeg yn eithriadol o bwysig o safbwynt y Gymraeg a’r cyfleoedd i bobl glywed a defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.
“Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gennym y llynedd yn dangos pwysigrwydd darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg o safbwynt amlygrwydd y Gymraeg a chyfleoedd i bobl glywed a defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau beunyddiol. Mae'n rhoi llwyfan i ddiwylliant, chwaraeon, adloniant a newyddion sy’n adlewyrchu bywyd yn Nghymru, yn ogystal â denu siaradwyr newydd.
“Mae darlledu Cymraeg ei iaith yn llwyr ddibynnol ar wasanaethau darlledu a ariennir gan y pwrs cyhoeddus. O dynnu’r ddarpariaeth hon, fydd yna ddim darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nid yw'r un peth yn wir am yr iaith Saesneg. O ganlyniad i hyn mae’n hanfodol peidio ystyried gwerth darlledu cyfrwng Cymraeg ar sail ‘gwerth am arian’ yn unig.
“Mae darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol yn ymwneud â llawer mwy na darparu adloniant neu greu elw, mae'n elfen gwbl greiddiol o'r ymdrechion i hyrwyddo a gwarchod iaith, diwylliant a hunaniaeth.
“Rwy’n derbyn yn llwyr fod yna heriau sylweddol yn wynebu’r BBC ac yn sylweddoli fod penderfyniadau anodd i’w gwneud, ond mae angen ystyried yr effaith hirdymor ar ddiwylliant a chost hynny i genedlaethau’r dyfodol.”
Adleisiwyd y pryderon hyn gan Gomisiynydd yr Wyddeleg, Pól Deeds, a ddywedodd,
"Mae darlledu yn yr Wyddeleg yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod yr Wyddeleg yn weladwy, ac yn cael ei chlywed a'i defnyddio yn rhan o fywyd bob dydd yng Ngogledd Iwerddon.
"I iaith leiafrifol, mae cyfleoedd i glywed yr iaith drwy newyddion, materion cyfoes, chwaraeon ac adloniant yn arbennig o werthfawr. Maent yn helpu i greu gofod lle gall siaradwyr ymgysylltu â bywyd cyhoeddus drwy’r Wyddeleg, tra hefyd yn cyflwyno'r iaith, gan roi hyder i'r rhai sy'n ei defnyddio, a sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud wrth gefnogi Gwyddeleg fel iaith fyw.
"Rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r BBC, ond mae'r Wyddeleg eisoes yn wannach na ieithoedd brodorol eraill yn y DU o ran darpariaeth y BBC. Byddwn yn awyddus i bwysleisio bod angen ystyried yn llawn anghenion penodol cynulleidfaoedd lleiafrifol, a'r canlyniadau hirdymor posibl i’r Wyddeleg, pan fydd penderfyniadau am wasanaethau yn cael eu gwneud."