- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw (Llun, 25 Mai) gan Gomisiynydd y Gymraeg yn rhoi darlun o’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr ar draws Cymru. Casglwyd ymatebion gan dros 1,500 o fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch, ac mae’r canfyddiadau’n dangos darlun cymysg o brofiadau ar draws y sector.
Bwriad yr ymchwil oedd ystyried y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg i fyfyrwyr mewn pedwar maes penodol, sef:
- gallu myfyrwyr i gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg
- dewis o lety gyda siaradwyr Cymraeg
- cynnig a dyrannu tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg
- mynediad at wasanaethau llesiant drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ychwanegol at hynny, edrychwyd ar y defnydd ehangach o’r Gymraeg gan sefydliadau addysgol, gan gynnwys diwylliant ieithyddol y campws, a sut mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu hyrwyddo i fyfyrwyr.
Gan fod profiadau plant a phobl ifanc wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn thema benodol yng Nghynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg, mae’r gwaith ymchwil hwn yn gyfraniad pwysig at ddeall sut mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu ac yn gweithredu’n ymarferol i fyfyrwyr.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn,
“Wrth i ni ystyried pwysigrwydd cynnal a datblygu defnydd parhaus o'r iaith Gymraeg, rhaid cydnabod pa mor allweddol yw rôl colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol fel rhan o’u bywydau academaidd a chymdeithasol.
“Yr hyn mae’r gwaith ymchwil hwn yn ei gynnig i ni yw gwell dealltwriaeth o brofiad uniongyrchol myfyrwyr o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt, gan ganolbwyntio ar feysydd lle mae dyletswyddau penodol wedi’u gosod drwy safonau’r Gymraeg, ond hefyd ar y diwylliant ehangach sy’n dylanwadu ar ddefnydd o’r iaith o ddydd i ddydd.
“Er ei bod yn galonogol gweld enghreifftiau cryf o arferion da, nid yw’r profiad hwnnw’n gyson ar draws y sector. O ganlyniad, rydym wedi nodi camau gwella clir, a byddwn yn gofyn i’r sefydliadau perthnasol fynd i’r afael â nhw. Rwy’n edrych ymlaen at drafodaethau adeiladol a chadarnhaol dros y misoedd nesaf.”
Rhannwyd holiaduron gyda myfyrwyr sy’n astudio mewn coleg neu brifysgol yng Nghymru, a chynhaliwyd sesiynau trafod gyda grwpiau llai er mwyn cael darlun cyflawn o'r gwasanaethau a gynigir. O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae pum cam gwella penodol wedi eu hadnabod sef:
- Safoni trefniadau asesu yn Gymraeg
- Cynnig y Gymraeg yn rhagweithiol, nid dim ond fel opsiwn
- Cau’r bylchau sgiliau Cymraeg yn y gweithlu
- Cryfhau’r profiad Cymraeg sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn
- Sicrhau cysondeb drwy hunanasesu a monitro cadarn
Ychwanegodd James Owen, Prif Weithredwr Medr, sydd yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru,
“Mae’r ymchwil hwn yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar brofiad dysgwyr Cymraeg eu hiaith mewn addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru. Mae’r canfyddiadau’n dangos darlun amrywiol, ac yn tanlinellu’r angen i wneud mwy i gefnogi’r sector addysg drydyddol, ei staff, a’i ddysgwyr i symud ymhellach ar y continwwm sgiliau Cymraeg dros amser. I Medr, mae profiad cadarnhaol a chyfoethog i ddysgwyr Cymraeg yn allweddol i alluogi’r Gymraeg i ffynnu, o fewn y sector addysg drydyddol ac ar draws Cymru ehangach.
“Bydd Amod y Gymraeg newydd Medr yn rhoi ffocws cliriach ar rôl darparwyr wrth hybu a hyrwyddo’r Gymraeg, ac ar feithrin amgylchedd lle gall staff a dysgwyr ddefnyddio’r iaith yn naturiol. Bydd angen i golegau a phrifysgolion ddangos sut maen nhw’n mynd i hyrwyddo gwerth y Gymraeg, y manteision mae’r iaith yn eu cynnig, a sut y byddan nhw’n creu cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.”
Yn ôl Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r ymchwil hwn yn amserol,
“Mae profiadau dysgwyr o’r Gymraeg yn ystod eu cyfnod mewn coleg neu brifysgol yn dylanwadu’n sylweddol ar eu gallu a’u parodrwydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle wedyn. Er bod cynnydd wedi bod mewn darpariaeth Gymraeg o ganlyniad i waith y Coleg, mae’r ymchwil hwn yn amlygu unwaith yn rhagor bod angen i’r profiad Cymraeg ymestyn ymhell tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
“Mae’r camau gwella yn rhoi llwybr clir i golegau a phrifysgolion weithio gyda sefydliadau fel Medr, Comisiynydd y Gymraeg a’r Coleg i wella’r gwasanaeth i ddysgwyr. Yn sgil newidiadau diweddar i’r tirwedd addysg drydyddol, mae hyn yn fwy o reidrwydd nag erioed.”
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi’n swyddogol ar stondin Comisiynydd y Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Môn ar fore lun, 25 Mai am 11 o'r gloch.