- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Arwain Cymru
Rydym yn falch iawn o fod wedi lansio’n ddiweddar ein fframwaith llywodraethu a datblygu pobl, Arwain Cymru, ac yn enwedig y ffordd y mae’n ymgorffori’r Gymraeg fel elfen graidd. Mae’r fframwaith yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiwylliant Cymru ac i gefnogi’r sefydliadau rydym yn buddsoddi ynddynt i ddatblygu eu llywodraethu a’u pobl mewn ffordd gynhwysol. Rydym yn awyddus i weld ein partneriaid yn gweithio’n agos gyda thîm Hybu a thîm llywodraethu Chwaraeon Cymru fel rhan o’u taith tuag at y Cynnig Cymraeg, ac i rannu’r syniadau arloesol a’r arferion da a ddaw i’r amlwg o’r gwaith hwn.
Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i Chwaraeon Cymru?
Mae’r Gymraeg yn rhan sylfaenol o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru. Fel corff cyhoeddus, mae gan Chwaraeon Cymru gyfrifoldeb clir i barchu, hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg wrth ddarparu ei wasanaethau. Mae defnyddio’r Gymraeg yn cefnogi cynhwysiant, cydraddoldeb a hygyrchedd, ac mae integreiddio’r Gymraeg yng ngwaith Chwaraeon Cymru yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wasanaethu pobl yn eu dewis iaith ac i wreiddio diwylliant Cymreig o fewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Un o brif yrwyr strategaeth Chwaraeon Cymru yw bod yn canolbwyntio ar y person ym mhopeth a wnawn, ac ar yr hyn mae chwaraeon yn ei olygu i’r cyfranogwr. Rhan sylfaenol o fod yn ganolbwyntio ar y person yw cyfathrebu yn newis iaith pob unigolyn. Felly, rydym am weld mwy o gyfleoedd drwy’r Gymraeg i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Am y rhesymau hyn, penderfynwyd ymgorffori’r Gymraeg o fewn ein fframwaith llywodraethu a datblygu pobl, Arwain Cymru. Yn ystod y cyfnod datblygu, pwysleisiodd partneriaid bwysigrwydd cynnwys y Gymraeg fel elfen graidd o’r fframwaith, gan ei nodi fel maes blaenoriaeth ar gyfer datblygu ac yn adlewyrchiad o’r gwerth y mae’r sector yn ei roi ar y Gymraeg.
Pam fod cynnig gwasanaethau Cymraeg yn bwysig yn y maes chwaraeon yng Nghymru? Beth yw’r manteision o wneud hyn?
Drwy ymgorffori gwasanaethau Cymraeg o fewn y sector, rydym yn sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch ac yn berthnasol i gymunedau Cymraeg. Heb hyn, mae perygl i sefydliadau golli cyfleoedd ymgysylltu allweddol, a methu â chwrdd â disgwyliadau cenedlaethol.
Mae tystiolaeth dros sawl blwyddyn hefyd yn dangos bod cyfraddau cyfranogi ymhlith siaradwyr Cymraeg yn uwch na’r cyfartaledd, felly mae gallu targedu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol o fewn y cymunedau hynny yn hanfodol i gefnogi gweledigaeth chwaraeon yng Nghymru ac i greu canolfannau naturiol lle gall pobl fwynhau chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ymchwil ddiweddar Comisiynydd y Gymraeg wedi dangos pa mor bwysig yw hyn i bobl ifanc.
Pam ydych chi’n annog Cyrff Llywodraethu Chwaraeon i weithio gyda’r tîm Hybu tuag at dderbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?
Rydym yn annog ein partneriaid a ariennir i weithio gyda thîm Hybu i dderbyn y Cynnig Cymraeg gan ei fod yn darparu fframwaith ymarferol ar gyfer datblygu eu darpariaeth Gymraeg. Mae’r tîm yn cynnig cyngor, cymorth ac arbenigedd wedi’u teilwra, gan helpu partneriaid i lunio cynllun datblygu sy’n gyraeddadwy ac yn briodol i’w maint, eu gallu a’u cyrhaeddiad.
Pa mor bwysig yw cynnal perthynas a chydweithio gyda thîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg?
Mae’n bwysig i Chwaraeon Cymru adeiladu’r bartneriaeth hon oherwydd yr arbenigedd a’r gefnogaeth y gall y tîm ei gynnig i’r sector chwaraeon yng Nghymru. Dechreuodd Chwaraeon Cymru bartneriaeth agos â thîm Hybu yn 2021, ac mae hyn wedi helpu nifer o Gyrff Llywodraethu Chwaraeon a Sefydliadau sy’n bartneriaid i Chwaraeon Cymru i ddatblygu eu darpariaeth Gymraeg, ac i rai ohonyn nhw i gyflawni’r Cynnig Cymraeg.
Mae’r tîm â phrofiad o weithio gyda sefydliadau o bob siâp a maint, ac felly’n teilwra eu cymorth, eu cyngor a’u disgwyliadau i bob sefydliad unigol. Mae ganddynt hefyd ddealltwriaeth dda o sefydliadau chwaraeon, ynghyd â’u cyfleoedd a’u heriau.
Beth yw’r budd i sefydliadau yn y maes chwaraeon i weithio tuag at y Cynnig Cymraeg? Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?
Byddem yn argymell bod ein partneriaid yn ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg. Mae’r Cynnig Cymraeg yn darparu cydnabyddiaeth weledol i sefydliad sy’n ymrwymo i gynnig gwasanaethau Cymraeg. Gall hyn fod yn arwydd gwerthfawr i siaradwyr Cymraeg.