- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg ymhob sefyllfa yw nod ymgyrch flynyddol Comisiynydd y Gymraeg, Defnyddia Dy Gymraeg, ac mae Bardd Plant Cymru wedi gweithio gyda disgyblion cynradd ar draws y wlad i greu cerdd arbennig i gefnogi’r ymgyrch.
Eleni roedd ffocws arbennig gan yr ymgyrch ar ddathlu ugain mlynedd ers cyflwyno cynllun Iaith Gwaith a’r bathodyn bach oren sydd bellach mor adnabyddus i bawb.
Cefnogaeth Bardd Plant Cymru
Mae Bardd Plant Cymru, Siôn Tomos Owen, wedi bod yn rhan o'r ymgyrch eleni wrth greu cerdd arbennig yng nghwmni nifer o blant ysgolion cynradd,
“Rwy’n falch iawn o allu cefnogi ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg eleni. Fe wnes i weithdy rhithiol gydag ysgolion ac roedd y syniadau a gyflwynwyd yn wych. Rwyf bellach wedi cymryd y geiriau mae’r plant wedi eu cyflwyno a chreu cerdd unigryw i ddathlu ugain mlynedd o gynllun Iaith Gwaith yn cynnwys llinellau a syniadau a gasglwyd gan y disgyblion.
“Mae yn ysbrydoliaeth gweithio gyda phlant achos does dim terfyn ar eu brwdfrydedd a’u dychymyg. Diolch iddyn nhw am eu cyfraniadau a gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r gerdd.”
Un ysgol a fu’n cymryd rhan ac a gyfrannodd i’r gerdd yw Ysgol Gymraeg y Trallwng ac roedd yn brofiad gwych yn ôl y Pennaeth, Angharad Davies,
“Roedd y plant wrth eu boddau i gael gweithio gyda Sion Tomos Owen a’r ysgolion eraill wrth greu’r gerdd hon. Roedd y syniadau’n llifo ac mae gweld y gerdd orffenedig wedyn yn dod yn fyw yn brofiad hyfryd iddynt.
“Mae’n braf iddynt hefyd gael cyfle i gefnogi ymgyrch mor bwysig i'w hannog i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol.”
Trydedd flwyddyn yr ymgyrch
Dyma’r drydedd flwyddyn i’r ymgyrch hon gael ei chynnal ac yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mae’r brwdfrydedd yn cynyddu yn flynyddol,
“Mae ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg yn elfen o’n gwaith sydd yn ategu ein blaenoriaethau craidd ac mae cyfle i bawb chwarae eu rhan. Mae’r diddordeb a’r brwdfrydedd yn cynyddu yn flynyddol ac mae’n hyfryd gweld y cydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru a Bardd Plant Cymru a phlant o wahanol ysgolion er mwyn creu cerdd mor arbennig.”
Yr ysgolion cynradd a fu’n gweithio gyda Bardd Plant Cymru i ddatblygu’r gerdd oedd ysgolion Amlwch, Cemaes, Cybi, Llanfawr, Llangynnwr, Llanilar, Llanystumdwy, Rhydaman, Santes Tudful, Tirdeunaw, Trallwng, Treganna ac Ynyswen.
Gallwch ddarllen y gerdd fan hyn a gallwch wylio’r disgyblion yn darllen y gerdd fan hyn.