- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Mae heddiw (11 Mai) yn cychwyn ar wythnos o ddathlu i’r busnesau a’r elusennau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg. Ymysg y rhai diweddaraf sydd wedi ymrwymo i’r Cynnig Cymraeg y mae Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru, BAFTA Cymru, Ymchwil Canser Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter.
Cydnabyddiaeth swyddogol Comisiynydd y Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg, a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg. Erbyn hyn mae dros 187 o sefydliadau wedi ei derbyn, yn fusnesau, elusennau a sefydliadau trydydd sector.
Mae ffocws yr wythnos eleni ar faes chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac yn cydnabod y gwaith pwysig mae sefydliadau chwaraeon ar draws Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg. Mewn gwaith ymchwil a gyhoeddwyd y llynedd gan y Comisiynydd oedd yn ystyried defnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg gwelwyd fod plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon na gweithgareddau eraill y tu allan i’r ysgol. Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol felly yn rhoi cyfle hollbwysig i bobl o bob oed ddefnyddio a chael hwyl yn y Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru.
Un sefydliad sy’n dathlu derbyn y Cynnig Cymraeg yr wythnos hon yw Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru – un o bum partneriaeth tebyg sydd wedi eu sefydlu ar draws Cymru. Un o amcanion y bartneriaeth yw sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl nad ydynt yn actif yn gorfforol yn rheolaidd ac i rannu a chyfuno gwybodaeth, adnoddau, sgiliau a dysgu ar draws y wlad.
Yn ôl Gemma Cutter, cyfarwyddwr partneriaeth chwaraeon canolbarth Cymru, mae derbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg yn gam pwysig,
“Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn faes sydd yn cyffwrdd â chymaint o bobl yn ein cymunedau, ar lefel gystadleuol ac ar lefel hamdden. Mae’n bwysig felly ein bod yn medru cynnig ein gwasanaethau yn yr iaith sydd orau i’n cynulleidfa ar draws y canolbarth, boed hynny yn Gymraeg neu’n Saesneg neu'n ddwyieithog.
“Ni’n hynod o falch o gael derbyn y Cynnig Cymraeg gan ei fod yn dangos ein hymrwymiad parhaus i’r iaith yn ein gweithgareddau. Dechrau’r daith yw hyn i ni a’n gobaith yw i ddatblygu ein gwasanaethau Cymraeg ymhellach ar draws y Canolbarth yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
Drwy gydol yr wythnos hon, caiff sylw ei roi i’r sefydliadau hynny sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg, yn enwedig ym maes chwaraeon, gan annog eraill i fynd amdani.
Yn ôl Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg, mae’r cynllun hwn yn gyfle gwych i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i’r Gymraeg,
“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth o’r hyn y maent yn ei gynnig drwy’r Gymraeg a thrwy wneud hynny y gobaith yw y bydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg.
“Mewn gwaith ymchwil a gomisiynwyd gennym y llynedd am y defnydd o'r Gymraeg gan bobl ifanc daeth yn amlwg fod chwaraeon yn faes lle’r oedd yr iaith yn cael ei defnyddio’n naturiol. Mae’r diddordeb mewn chwaraeon gan bobl o bob oed yn golygu fod yna botensial mawr yma i gynyddu’r defnydd o’r iaith mewn clybiau, cyrtiau a chaeau ar lawr gwlad, a gobeithio bydd yr ymgyrch hon yn hwb pellach i’r gwaith hwnnw.
“Rydym hefyd yr wythnos hon yn cyhoeddi adnodd newydd fydd o gymorth gobeithio i grwpiau wrth ddarparu gweithgareddau chwaraeon drwy’r Gymraeg i’w haelodau.”
Chwaraeon Cymru yw’r cyngor cenedlaethol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru ac mae wedi croesawu’r pwyslais hyn ar chwaraeon a’r Gymraeg. Dywedodd Uwch Swyddog Llywodraethu Chwaraeon Cymru, Ellen Todd,
"Rydym yn falch iawn o fod wedi lansio ein fframwaith llywodraethu a datblygu pobl, Arwain Cymru, yn ddiweddar, ac yn falch yn arbennig o’r ffordd y mae'n ymgorffori'r Gymraeg fel elfen graidd. Mae'r fframwaith yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiwylliant Cymru ac i gefnogi'r sefydliadau yr ydym yn buddsoddi ynddynt i ddatblygu eu llywodraethiant a'u pobl mewn ffordd sy'n gynhwysol.
“Rydym yn awyddus i weld ein partneriaid yn gweithio'n agos gyda thîm Hybu y Comisiynydd a thîm llywodraethu Chwaraeon Cymru fel rhan o'u taith tuag at y Cynnig Cymraeg, ac i rannu'r syniadau arloesol a'r arfer da a fydd yn dod i'r amlwg o'r gwaith hwn."
Ers lansio cynllun y Cynnig Cymraeg ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei roi i dros 187 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn croesawu sefydliadau o bob sector i ddod atynt i drafod a datblygu cynlluniau.
Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma.