Defnyddir cysylltnodau mewn enwau lleoedd er mwyn cynorthwyo â’r ynganiad
drwy ddangos pan nad yw'r brif acen yn syrthio ar y goben (y sillaf olaf
ond un). Aceniad terfynol sydd i’r enw hwn, felly mae angen cynnwys cysylltnod
o flaen y sill derfynol acennog.