Nodiadau
Mae angen defnyddio cysylltnodau oherwydd bod y fannod (y/yr) yn dod o flaen elfen olaf unsill yr enw; defnyddir cysylltnodau cyn ac ar ôl y fannod er mwyn dangos yr elfennau unigol a hwyluso ynganiad.
Arfer y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967) yw defnyddio tyn (heb gollnod) ar gyfer cywasgiad o'r enw tyddyn.