Nodiadau
Dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros fynd yn groes i’w argymhellion.
Enw Cymraeg yw hwn ac felly dylid sillafu'r elfen ynn yn y ffordd safonol; mae ynn yn cyfeirio at fwy nag un coeden onnen.
Defnyddir cysylltnod ar ôl yr elfen pont o flaen enw rhyd sy’n cynnwys y fannod ac elfen unsill.
Dylid anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes ond llythyren neu ddwy o wahaniaeth rhwng y ‘ffurf Gymraeg’ a'r ‘ffurf Saesneg', gan dueddu at y ‘ffurf Gymraeg’. Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau'r Priffyrdd.