Nodiadau
Yn ddelfrydol byddai’r ffurf Maendy yn unig yn cael ei defnyddio yn Gymraeg a Saesneg gan fod yr enw’n un Cymraeg a chan fod y ‘ffurf Saesneg’ yn cynrychioli sillafiad ansafonol.
Y fannod
Dylid cynnwys y fannod (y/yr) yn llawn ac fel priflythyren o flaen ffurf Gymraeg yr enw hwn ar arwyddion lle mai’r enw yw prif elfen yr arwydd. Mae cyngor pellach am sut i osod enwau ar arwyddion yn yr adran cyngor technegol ar ein gwefan.
Wrth ysgrifennu’r enw mewn brawddeg Gymraeg, caiff y fannod ei dangos fel llythyren fach, e.e. ‘yn y Maendy’. Bydd hefyd yn cael ei chyfuno â’r llafariad o’i blaen yn unol â rheolau gramadeg y Gymraeg, e.e. ‘mynd i’r Maendy’.