Nodiadau
Argymhellir y ffurf hon ar sail tystiolaeth o ddefnydd, er ei bod yn groes i ffurf y Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967).
Mae angen defnyddio cysylltnod pan fo arddodiad (yn/ym/ar) yn dod rhwng dwy elfen arall. Mewn enwau o’r fath mae angen cynnwys cysylltnodau cyn yr arddodiad ac ar ei ôl er mwyn dangos yr elfennau unigol a sicrhau ynganiad cywir.
Rhoddir priflythyren i enw priod sy’n ymddangos o fewn enw lle arall pan fo bannod neu arddodiad rhwng y prif elfennau. Mae Rhos yma yn cyfeirio at gantref Rhos nid at rostir cyffredinol, ac felly mae angen priflythyren i'r enw gan ei fod yn dilyn yr arddoiad yn.