Enwau Lleoedd Safonol Cymru

Hôb, Yr

Ffurf safonol
Hôb, Yr
Ffurf Saesneg
Hope
Math
Anheddiad
Cod post
LL12
Cyfeirnod grid
SJ3058
Awdurdod lleol
Sir y Fflint

Nodiadau

Argymhellir defnyddio acen grom yma – yn groes i arfer yr orgraff – er mwyn osgoi amwyster a sicrhau ynganiad cywir.

Y fannod

Dylid cynnwys y fannod (y/yr) yn llawn ac fel priflythyren o flaen ffurf Gymraeg yr enw hwn ar arwyddion lle mai’r enw yw prif elfen yr arwydd. Mae cyngor pellach am sut i osod enwau ar arwyddion yn yr adran cyngor technegol ar ein gwefan.

Wrth ysgrifennu’r enw mewn brawddeg Gymraeg, caiff y fannod ei dangos fel llythyren fach, e.e. ‘yn yr Hôb’. Bydd hefyd yn cael ei chyfuno â’r llafariad o’i blaen yn unol â rheolau gramadeg y Gymraeg, e.e. ‘mynd i’r Hôb’.

Image of Hôb, Yr Sir y Fflint