Nodiadau
Mae'r fannod (y/yr) yn rhan annatod o’r enw hwn.
Y fannod
Dylid cynnwys y fannod (y/yr) yn llawn ac fel priflythyren o flaen yr enw hwn ar arwyddion lle mai’r enw yw prif elfen yr arwydd. Mae cyngor pellach am sut i osod enwau ar arwyddion yn yr adran cyngor technegol ar ein gwefan.
Wrth ysgrifennu’r enw mewn brawddeg Gymraeg, caiff y fannod ei dangos fel llythyren fach, e.e. ‘yn yr Hendy’. Bydd hefyd yn cael ei chyfuno â’r llafariad o’i blaen yn unol â rheolau gramadeg y Gymraeg, e.e. ‘mynd i’r Hendy’.
Er y byddai disgwyl gweld un ffurf yn cynnwys y fannod ar arwyddion, nid oes angen cynnwys y fannod o flaen yr enw hwn mewn brawddeg Saesneg, e.e. ‘going to Hendy’.
