Nodiadau
Y Farteg yw'r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros fynd yn groes i’w argymhellion.
Yn ddelfrydol byddai’r ffurf Farteg yn unig yn cael ei defnyddio yn Gymraeg a Saesneg gan fod yr enw’n un Cymraeg a chan fod y ‘ffurf Saesneg’ yn cynrychioli sillafiad ansafonol.
Y fannod
Dylid cynnwys y fannod (y/yr) yn llawn ac fel priflythyren o flaen ffurf Gymraeg yr enw hwn ar arwyddion lle mai’r enw yw prif elfen yr arwydd. Mae cyngor pellach am sut i osod enwau ar arwyddion yn yr adran cyngor technegol ar ein gwefan.
Wrth ysgrifennu’r enw mewn brawddeg Gymraeg, caiff y fannod ei dangos fel llythyren fach, e.e. ‘yn y Farteg’. Bydd hefyd yn cael ei chyfuno â’r llafariad o’i blaen yn unol â rheolau gramadeg y Gymraeg, e.e. ‘mynd i’r Farteg’.
