Nodiadau
Arfer y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967) yw defnyddio tyn (heb gollnod) ar gyfer cywasgiad o'r enw tyddyn.
Defnyddir cysylltnodau mewn enwau lleoedd er mwyn cynorthwyo â’r ynganiad drwy ddangos pan nad yw'r brif acen yn syrthio ar y goben (y sillaf olaf ond un). Aceniad terfynol sydd i’r enw hwn, felly mae angen cynnwys cysylltnod o flaen y sill derfynol acennog.
