Nodiadau
Dyma’r ffurf sy’n cydymffurfio ag egwyddorion orgraff safonol yr iaith Gymraeg.
Dylid anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes ond llythyren neu ddwy o wahaniaeth rhwng y ‘ffurf Gymraeg’ a'r ‘ffurf Saesneg', gan dueddu at y ‘ffurf Gymraeg’. Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau'r Priffyrdd.
Yn ddelfrydol byddai’r ffurf Coed Efa yn unig yn cael ei defnyddio yn Gymraeg a Saesneg gan fod yr enw’n un Cymraeg a chan fod y ‘ffurf Saesneg’ yn cynrychioli sillafiad ansafonol. Dylid nodi, fodd bynnag, fod defnydd helaeth i’r ffurf Coed Eva, a bod yr awdurdod lleol yn arddel y ddwy ffurf yn swyddogol.