Enwau Lleoedd Safonol Cymru

Borth Uchaf, Y

YnganuBorth Uchaf, Y
Ffurf safonol
Borth Uchaf, Y
Ffurf Saesneg
Upper Borth
Math
Anheddiad
Cod post
SY24
Cyfeirnod grid
SN6088
Awdurdod lleol
Ceredigion

Nodiadau

Mae'r fannod (y/yr) yn rhan annatod o’r enw hwn. 

Fel arfer ysgrifennir enwau aneddiadau sy’n cynnwys yr elfen uchaf/isaf yn ddau air ar wahân â phriflythyren i’r elfen uchaf/isaf. Gosodir yr elfen uchaf/isaf ar wahân pan fo’n elfen wahaniaethol; ond mae rhai eithriadau safonol sydd wedi ennill eu plwyf. 

Y fannod

Dylid cynnwys y fannod (y/yr) yn llawn ac fel priflythyren o flaen yr enw hwn ar arwyddion lle mai’r enw yw prif elfen yr arwydd. Mae cyngor pellach am sut i osod enwau ar arwyddion yn yr adran cyngor technegol ar ein gwefan. 

Wrth ysgrifennu’r enw mewn brawddeg Gymraeg, caiff y fannod ei dangos fel llythyren fach, e.e. ‘yn y Borth Uchaf’. Bydd hefyd yn cael ei chyfuno â’r llafariad o’i blaen yn unol â rheolau gramadeg y Gymraeg, e.e. ‘mynd i’r Borth Uchaf’. 

Er y byddai disgwyl gweld un ffurf yn cynnwys y fannod ar arwyddion, nid oes angen cynnwys y fannod o flaen yr enw hwn mewn brawddeg Saesneg, e.e. ‘going to Borth Uchaf’.  

Image of Borth Uchaf, Y