Nodiadau
Dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Mae angen rheswm da dros fynd yn groes i’w argymhellion.
Nid yw’r fannod (y/yr) yn rhan annatod o’r enw hwn.
Defnyddir cysylltnodau mewn enwau lleoedd er mwyn cynorthwyo â’r ynganiad drwy ddangos pan nad yw'r brif acen yn syrthio ar y goben (y sillaf olaf ond un). Aceniad terfynol sydd i’r enw hwn, felly mae angen cynnwys cysylltnod o flaen y sill derfynol acennog.