Nodiadau
Argymhellir y ffurf Aber-erch yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Defnyddir cysylltnodau mewn enwau lleoedd er mwyn cynorthwyo â’r ynganiad drwy ddangos nad yw'r brif acen yn syrthio ar y goben (y sillaf olaf ond un). Aceniad terfynol sydd i’r enw hwn erbyn hyn, felly mae angen cysylltnod o flaen y sill derfynol acennog.
Defnyddir Berch yn gyson yn lleol ac mae hefyd yn ffurf safonol dderbyniol. Ni chaiff yr enw Berch ei dreiglo.
