Swyddi Cyfredol
Teitl swydd: Swyddog Cefnogi Systemau
Math o gontract: Dros dro (tan diwedd Mawrth 2027)
Oriau Gwaith: 3 diwrnod yr wythnos, er ystyrir ceisiadau am 2 ddiwrnod
Cyflog: £30,755 - £34,997 y flwyddyn pro rata (yn seiliedig ar oriau llawn amser o 37 awr yr wythnos). Penodir ar waelod y raddfa fel rheol.
Lleoliad: Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon. Gweithredir trefniant hybrid o weithio, gyda disgwyliad clir y bydd staff yn mynychu’r swyddfa o leiaf un diwrnod yr wythnos ar ddiwrnod angori penodedig, yn unol â threfniadau’r swyddfa berthnasol. Yn ogystal, anogir staff i weithio ail ddiwrnod yn y swyddfa lle bo hynny’n ymarferol, er mwyn cefnogi cydweithio, dysgu ar y cyd a chysylltiad tîm. Ystyrir hefyd yr opsiwn i fod yn Weithiwr Cartref os nad ydych yn byw o fewn pellter rhesymol o un o swyddfeydd y Comisiynydd.
Math o gontract:
1 cytundeb parhaol
1 cytundeb rhan amser – 12 mis
Oriau Gwaith:
Llawn amser, 5 diwrnod yr wythnos
Rhan amser, 3 diwrnod yr wythnos
Cyflog: £37,112 – 45,379 y flwyddyn pro rata. Penodir ar waelod y raddfa fel rheol
Lleoliad: Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon. Gweithredir trefniant hybrid o weithio, gyda disgwyliad clir y bydd staff yn mynychu’r swyddfa o leiaf un diwrnod yr wythnos ar ddiwrnod angori penodedig, yn unol â threfniadau’r swyddfa berthnasol. Yn ogystal, anogir staff i weithio ail ddiwrnod yn y swyddfa lle bo hynny’n ymarferol, er mwyn cefnogi cydweithio, dysgu ar y cyd a chysylltiad tîm. Ystyrir hefyd yr opsiwn i fod yn Weithiwr Cartref os nad ydych yn byw o fewn pellter rhesymol o un o swyddfeydd y Comisiynydd
Sut i ymgeisio?
Rydym yn derbyn ceisiadau am swyddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae’n bwysig bod gan yr unigolion sy'n gweithio i ni lefel uchel o Gymraeg.
Mae gofyn i bob ymgeisydd lenwi'r ffurflen gais a monitro cydraddoldeb os yw hynny'n bosib.
Dylech anfon eich ffurflen gais wedi’i chwblhau at swyddi@cyg-wlc.cymru erbyn y dyddiad a nodwyd ar y disgrifiad swydd.
Os oes gennych gwestiwn neu ymholiad ynglŷn â gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg, cysylltwch â ni.
Pam ddylech weithio yma?
Ein hamcan yw bod yn weithle cyfeillgar a chynhwysol, ac mae meithrin ymdeimlad agos o gymuned yn flaenoriaeth i ni. Credwn mewn creu amgylchedd gwaith sy’n galluogi aelodau staff ar draws y sefydliad i ddatblygu eu sgiliau, ac i gyrraedd eu llawn botensial.