Dadansoddiad o’r achos a’r rhesymeg
Yn ddiweddar, clywodd Tribiwnlys y Gymraeg achos pwysig a gyflwynwyd gan apelydd yn erbyn Comisiynydd y Gymraeg. Roedd yr achos yn canolbwyntio ar gydymffurfiaeth ag un safon penodol o Reoliadau Safonau’r Gymraeg.
Dyma grynodeb o’r hyn a ddigwyddodd a’r hyn a benderfynodd y Tribiwnlys.
Cefndir
Roedd yr apelydd wedi cyflwyno cwyn i’r Comisiynydd ynghylch hysbysiad swyddogol uniaith Saesneg oedd wedi ei gyhoeddi gan gyngor sir yn ne orllewin Cymru gan ddadlau y dylai fod yn ddwyieithog. Roedd yr hysbysiad yn rhoi gwybod am drefniadau i gau ffyrdd ar gyfer cynnal digwyddiad.
Dadl yr apelydd oedd fod hyn yn mynd yn groes i safon 69 sy’n nodi fod yn “Rhaid i unrhyw hysbysiad swyddogol yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono”.
Cyhoeddwyd yr hysbysiad yn unol â gofynion Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol 2006.
Penderfynodd y Comisiynydd nad oedd y cyngor sir wedi methu cydymffurfio â gofynion safon 69 oherwydd fod adran 41 rhan 3 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 yn eithrio hysbysiadau swyddogol o’r ddyletswydd i’w cyhoeddi yn Gymraeg, os yw’r hysbysiad wedi ei rhagnodi gan ddeddfiad.
Roedd yr apelydd yn dadlau bod penderfyniad y Comisiynydd yn anghywir ac yn afresymol ac yn mynd yn groes i egwyddorion Mesur y Gymraeg.
Penderfyniad y Tribiwnlys
Wedi gwrando ar yr holl ddadleuon, cadarnhaodd y Tribiwnlys benderfyniad y Comisiynydd ac ni chaniataodd yr apêl. Felly, cadarnhawyd y gallai hysbysiadau swyddogol gael eu cyhoeddi yn Saesneg yn unig o dan amgylchiadau penodol.
Dadleuon a Rhesymu'r Tribiwnlys
- Dehongliad safon 69: Roedd yr apelydd yn dadlau na ddylai'r eithriad a nodir yn adran 41 rhan 3 o'r Safonau fod yn berthnasol oni bai fod y ddeddfiad yn rhagnodi fformat yr hysbysiad. Yn ôl y Tribiwnlys, mae “deddfiad” yn cynnwys pob math o ddeddfwriaeth, ac mae adran 41 rhan 3 yn cynnwys hysbysiadau swyddogol a ragnodir gan unrhyw ddeddfiad, hyd yn oed os nad yw'r fformat yn cael ei nodi.
- Pwrpas y Mesur: Roedd yr apelydd yn dadlau bod yr eithriad yn tanseilio pwrpas y Mesur, sef hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Tra bod y Comisiynydd a’r Tribiwnlys yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo’r Gymraeg, roedd yn rhaid rhoi sylw dyladwy i adran 41 rhan 3 o’r Safonau fel y maent oni bai eu bod yn cael eu diwygio drwy brosesau cyfreithiol cywir.
- Perthnasedd safonau eraill: Cyfeiriodd yr apelydd at safonau eraill sy'n mynnu bod hysbysiadau'n ddwyieithog. Fodd bynnag, roedd y Tribiwnlys o'r farn bod safon 69 ac adran 41 rhan 3 yn gysylltiedig yn uniongyrchol ac na ddylid eu cymharu â safonau eraill.
Casgliad
Penderfynodd y Tribiwnlys gadarnhau penderfyniad y Comisiynydd. Roedd hyn yn golygu nad oedd methiant i gydymffurfio â Safon 69 wrth gyhoeddi'r hysbysiad swyddogol yn Saesneg yn unig. Gellir darllen penderfyniad y Tribiwnlys yn llawn yma.
Er hynny, mae’r Comisiynydd o’r farn fod cyhoeddi hysbysiadau swyddogol yn Gymraeg a Saesneg yn gyson ag ysbryd Mesur y Gymraeg, ac mae’n annog pob sefydliad i ystyried gwneud hynny.