Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Adroddiad Argymhellion Teithio gan Ddysgwyr 2023, sy'n nodi cyfres o argymhellion.

Mewn ymateb i’r adroddiad dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg,

“Mae bron i bum mlynedd ers i Lywodraeth Cymru dderbyn bod angen edrych ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn ei gyfanrwydd. O ystyried yr wybodaeth sydd wedi ei gasglu ers y cyfnod hwnnw, a gan dderbyn fod llawer wedi newid ers i’r Mesur gwreiddiol gael ei gyflwyno yn 2008,  mae’n hynod siomedig mai byrdwn y neges heddiw yw nad oes modd gwneud unrhyw waith sylweddol iddo, ac mai mân newidiadau i ganllawiau yn unig sydd yn cael eu cynnig.

“O safbwynt mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, cludiant i’r ysgol yw un o’r materion mwyaf cyson y mae rhieni yn cysylltu â ni yn eu cylch, gyda heriau cyson yn cael eu nodi. Os am gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ynghylch addysg Gymraeg, yna mae sicrhau cludiant hwylus i ysgolion yn rhan allweddol. Nid yw’r Mesur yn llwyddo fel ag y mae ar hyn o bryd.

“Mae’n prif bryderon yn cynnwys,

  • Y ffaith nad yw trefniadau cludiant bob amser yn adlewyrchu’r realiti bod llai o ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac felly ar gyfartaledd bod disgyblion yn tueddu i fyw yn bellach o’r ddarpariaeth. Mae hyn yn golygu fod mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn ddewis anoddach a mwy costus i nifer o deuluoedd.
  • Diffyg arweiniad clir a chadarn yn y mesur o ran y cyfrifoldeb sydd ar awdurdodau lleol i hybu a hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Y ffaith nad yw’r mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried iaith y ddarpariaeth fel rhan o’r diffiniad o ‘ysgol addas agosaf’.
  • Y ffaith nad yw’r mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cludiant i addysg ôl-16 mewn ysgolion, sydd eto yn aml yn cael effaith anghymesur ar ddysgwyr sy’n dymuno mynychu addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Diffyg cydweithio rhwng awdurdodau lleol wrth ddarparu cludiant i addysg cyfrwng Cymraeg

“Yn 2020 fe wnaethon ni, ynghyd â’r Comisiynydd Plant, alw am ehangu’r adolygiad oedd wedi cael ei ymrwymo iddo – ac fe gytunodd y Llywodraeth wneud hynny. Er i’r adroddiad hwnnw ddod i’r casgliad bod angen datblygu rhaglen ehangach o waith yn ystod y Senedd hwn er mwyn ystyried diwygiad llwyr o’r mesur, nid yw’r adroddiad diweddaraf yn cyflawni’r addewidion hynny.

“Rydym yn llawn sylweddoli ei bod yn gyfnod anodd o ran cyllidebau cenedlaethol a lleol, ond mae hefyd yn gyfnod anodd i deuluoedd a phlant a phobl ifanc. Nhw yn y pendraw fydd yn dioddef yn sgil diffygion cludiant i addysg Gymraeg ar draws Cymru.

“Er ein bod yn siomedig ynghylch y cyhoeddiad yma heddiw rydym yn awyddus i barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod ystyriaeth llawn yn cael ei roi i’r holl opsiynau er mwyn gwella trefniadau cludiant i ddysgwyr”.