Efa gyda disgyblion y chweched ddosbaeth

Mae ymchwil newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dangos fod siaradwyr Cymraeg rhwng 16-18 oed yn gweld yr iaith yn fanteisiol i’w gyrfaoedd a bod cyfleoedd i astudio drwy’r Gymraeg yn bwysig iawn iddynt. Mae mwyafrif helaeth y dysgwyr a holwyd mewn ysgolion a cholegau addysg bellach yn nodi hefyd bod eu profiad o addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn dda neu’n dda iawn.  

Fel rhan o’r ymchwil casglwyd ymatebion gan dros 1,000 o bobl ifanc gyda’r bwriad  o ddysgu am farn a phrofiadau dysgwyr ôl-16 mewn addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog mewn ysgolion a cholegau addysg bellach ledled Cymru. Y nod oedd darganfod beth oedd eu rhesymau dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, eu barn am y ddarpariaeth a’u bwriad o safbwynt eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.  

Tra bod yr ymateb yn gyffredinol yn gadarnhaol am y gallu i dderbyn addysg Gymraeg a'r ddarpariaeth sydd ar gael, roedd cryn wahaniaeth yn ddibynnol ar leoliad addysgu. Mae'r ymchwil yn amlygu gwahaniaethau rhwng dysgwyr ysgol a choleg, o ran eu canfyddiad o'u gallu yn y Gymraeg, cyfrwng iaith eu haddysg a'u hagweddau at bwysigrwydd y Gymraeg.  

Bydd angen felly ystyried yn ofalus y canlyniadau hyn wrth ddatblygu polisïau yn y dyfodol.  

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae’r canlyniadau yn gyffredinol yn gadarnhaol, 

“Mae’r ymchwil hwn gyda nifer sylweddol o ddysgwyr ifanc yn ymateb yn dangos yn glir bwysigrwydd y Gymraeg i ddysgwyr yng Nghymru. Mae’r mwyafrif helaeth yn falch o fod yn gallu siarad yr iaith ac yn nodi bod cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig wrth ddewis man astudio, yn ogystal â chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd yr ysgol neu’r coleg a gyda’u ffrindiau.  

“Mae angen serch hynny roi ystyriaeth bellach i resymau dysgwyr dros beidio â dewis astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n bryderus nodi’r gwahaniaeth rhwng argaeledd cyrsiau drwy’r Gymraeg yn ein colegau o’i gymharu â’n hysgolion.  

“Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud ymdrechion sylweddoI i fynd i'r afael â gwella darpariaeth Gymraeg yn y colegau addysg bellach, ond mae hefyd angen atgyfnerthu'r ddarpariaeth allweddol sy'n bodoli mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.”  

Mae’r ymchwil yn dangos fod dros 90% o’r rhai a holwyd yn falch o allu siarad Cymraeg a dros 80% yn teimlo y bydd y Gymraeg o gymorth iddynt wrth sicrhau swyddi yn y dyfodol. Ond mae’r ffigwr yn disgyn i ychydig o dan 60% sydd yn teimlo yn hyderus y byddant yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfaoedd.    

Un o'r ymatebwyr oedd Maddie Pritchard, myfyriwr chweched dosbarth yn ysgol gyfun Ystalyfera ac sydd yn faer ieuenctid yng nghyngor Castell nedd Port Talbot, 

“Fel maer ieuenctid fe wnes i osod y Gymraeg fel un o fy mlaenoriaethau gan mod i’n teimlo fod yr iaith yn bwysig i ni fel pobl ifanc, o ran ein bywydau bob dydd, yn yr ysgol ac yn ein cymunedau. Rwy’n falch o weld yr agweddau cadarnhaol sydd yn cael eu hamlygu yn yr ymchwil hwn gan ei fod yn adlewyrchu yr hyn rwyf i yn ei brofi o ddydd i ddydd. 

“Ond mae angen mynd i’r afael gyda’r rhesymau pam fod rhai yn dewis peidio astudio drwy’r Gymraeg ac ymateb yn ymarferol i hynny.  

“Mae’n braf fod ein llais ni fel dysgwyr yn cael ei glywed a’i barchu ac rwy’n gobeithio y cawn gyfle i gyfrannu at unrhyw waith cyffelyb yn y dyfodol.” 

Mae’r ymchwil yn nodi y bydd angen ystyried yn ofalus sut mae cefnogi ac adeiladu ar y ddarpariaeth sydd mewn lle ar hyn o bryd ac i roi ystyriaeth genedlaethol ynghylch beth fydd rôl ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wrth gynllunio addysg ôl-orfodol y dyfodol.  

Dylai hyn gynnwys cydweithio ar lefel ranbarthol rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach i sicrhau fod darpariaeth ddigonol ar gael er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr ôl-16 mewn addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. 

Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma.