Logo Cynnig Cymraeg

Mae heddiw (13 Mai) yn cychwyn ar gyfnod o ddathlu i’r busnesau a’r elusennau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg. Ymysg y rhai diweddaraf sydd wedi ymrwymo i’r Cynnig Cymraeg y mae’r elusen ieuenctid GISDA, Samariaid Cymru ac archfarchnad Aldi.

Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg.

Y Samariaid yw un o'r sefydliadau diweddaraf i dderbyn y Cynnig Cymraeg ac yn ôl Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru, mae darparu'r gwasanaethau'n ddwyieithog yn hanfodol i ddiwallu anghenion y rhai sy’n eu galw, 

"Yng Nghymru, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw derbyn cymorth yn eich iaith gyntaf ac rydym yn gweithio i gyrraedd cymaint o siaradwyr Cymraeg ag y gallwn. Rydym yn falch o dderbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg, ond rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i wella ein Cynnig Cymraeg i unrhyw un sydd angen cefnogaeth y Samariaid.

"Mae ein llinell Gymraeg yn rhad ac am ddim i'w ffonio, hyd yn oed o ffôn heb gredyd ac ni fydd y rhif yn ymddangos ar eich bil ffôn. Ein prif neges i bawb ledled Cymru, yw nad yw estyn allan am gymorth yn arwydd o wendid, ond yn hytrach yn arwydd o gryfder."

Drwy gydol yr wythnos hon, caiff sylw ei roi i’r cyrff hynny sydd wedi sicrhau cymeradwyaeth tra ar yr un pryd yn annog eraill i fynd amdani.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae’r cynllun hwn yn gyfle gwych i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i’r Gymraeg,

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn maent yn gynnig drwy’r Gymraeg a thrwy wneud hynny y gobaith yw y bydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.

“Hyd yn hyn mae’r ymateb wedi bod yn galonogol iawn ac rwy’n falch o weld cymaint o amrywiaeth yn y sefydliadau sydd wedi derbyn y gymeradwyaeth.

“Mae’n hollbwysig fod y gwaith o hyrwyddo a hybu’r Gymraeg drwy ein gwaith rheoleiddio yn y sector gyhoeddus a’n anogaeth yn y sector breifat a’r trydydd sector yn cyd-redeg, gan fod y ddwy elfen yn angenrheidiol os am gynyddu’r defnydd naturiol o’r iaith Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

“Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r cyrff sydd wedi ymrwymo i’n Cynnig Cymraeg ac yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle.”

Drwy gydol yr wythnos hon, caiff sylw ei roi i’r cyrff hynny sydd wedi sicrhau cymeradwyaeth tra ar yr un pryd yn annog eraill i fynd amdani.

Un busnes sydd yn gweld gwerth masnachol o ddefnyddio’r Gymraeg yw ani-bendod,  cwmni o Geredigion sydd yn gyfrifol am greu gweithiau celf a dillad i blant. Dywedodd Anwen Jenkins,

“Wrth i fi sefydlu’r cwmni roedd yn gam naturiol i sicrhau fod unrhyw waith marchnata yn cael ei wneud yn ddwyieithog. Yr hyn sydd wedi fy mhlesio yw cymaint y mae hynny yn cael ei werthfawrogi gan ddilynwyr a chwsmeriaid y busnes.

“Rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd o'r busnes ac mae’n braf cael cynllun fel y Cynnig Cymraeg sydd yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol o'r ymrwymiad hynny.”

Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i Gynnig Cymraeg dros 100 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda thros gant o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau. 

Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma.