Logo CyG

Yn gynharach eleni, penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg agor ymchwiliad i amheuaeth o fethiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg gan Gyngor Sir Gâr. Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar gydymffurfiaeth â’r safonau llunio polisi (safonau 88-90). Mae’r Comisiynydd bellach wedi penderfynu dod a’r ymchwiliad hwnnw i ben.  

Cefndir 

Agorwyd ymchwiliad i’r amheuaeth o fethiant i gydymffurfio wedi i’r Cyngor benderfynu caniatáu  cais cynllunio i ddatblygu 42 annedd yn ardal Porth-y-rhyd. Gan mai 27 annedd oedd wedi ei gytuno ar gyfer y safle o dan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), ystyriwyd bod amheuaeth o fethiant i gydymffurfio â safonau 88-90 gan fod datblygu 42 annedd yn sylweddol uwch na’r hyn oedd wedi ei gytuno yn y CDLl.  

Mae’r safonau llunio polisi yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i ystyried effeithiau penderfyniad polisi ar y Gymraeg wrth lunio polisi newydd, neu adolygu neu addasu polisi sydd eisoes yn bodoli. Rhaid hefyd ystyried sut i gynyddu unrhyw effeithiau positif, a lliniaru unrhyw effeithiau andwyol.  

Mewn ymateb i’r ymchwiliad eglurodd y Cyngor nad oedd, wrth benderfynu ar gais cynllunio, yn llunio polisi newydd nac yn adolygu neu addasu polisi oedd eisoes yn bodoli. Gwnaeth yn glir hefyd nad oedd angen, o ganlyniad, i gynnal asesiad o effaith y penderfyniad ar y Gymraeg.  

Terfynu ymchwiliad 

Mae’r wybodaeth gafodd ei gasglu yn ystod yr ymchwiliad wedi amlygu tebygolrwydd na fyddai’r ymchwiliad yn canfod bod methiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg. Rydym felly wedi penderfynu terfynu’r ymchwiliad hwn.   

Er bod y penderfyniad i gymeradwyo’r cais cynllunio ym Mhorth-y-rhyd yn wahanol i’r hyn oedd wedi ei gytuno yn y CDLl, rydym yn derbyn fod gan y Cyngor y disgresiwn i wneud penderfyniadau o’r fath mewn rhai amgylchiadau. Nid yw hynny o reidrwydd yn gyfystyr â llunio, addasu neu adolygu’r polisi hwnnw.  

Rydym hefyd wedi cymryd i ystyriaeth bod y Cyngor wedi cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig i Lywodraeth Cymru a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w harchwilio. Mae’r Cynllun yn cynnwys ymrwymiad i osod gofynion am dystiolaeth bellach ac asesiadau effaith mewn perthynas â’r Gymraeg. Mae’r Cynllun hefyd yn cynnwys ymrwymiad i nodi bod Sir Gaerfyrddin gyfan yn ardal ieithyddol sensitif.  

O ganlyniad i’r ystyriaethau hyn, rydym o’r farn y byddai parhau gyda’r ymchwiliad yn ddefnydd anghymesur o’n hadnoddau. 

Sylwadau cloi 

Mae’n amlwg bod y penderfyniad i godi 42 annedd yn lle 27 wedi achosi pryder mawr yn lleol am amrywiaeth o resymau, a’r effaith ar y Gymraeg yn un o’r rhesymau hynny. Mae’n glir o’r sylwadau rydym wedi eu derbyn mai disgwyliad nifer yn y gymuned oedd bod ystyriaeth yn cael ei roi i effaith y cais cynllunio ar y Gymraeg yn yr ardal.   

Gyda hynny mewn golwg, ac yn unol ag ysbryd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r deilliannau rheoleiddio rydym bellach wedi eu gosod, mae’n galonogol gweld y datblygiadau i Gynllun Datblygu Lleol diwygiedig y Cyngor o safbwynt y Gymraeg. 

Fel sefydliad, bydd gennym ddiddordeb yn y Cynllun diwygiedig hwn, a sut y caiff ei weithredu i’r dyfodol.