Llun grŵp o'r daith i Norwy

Yn ddiweddar bu Dr Manon Wynn Davies, Swyddog Ymchwil ac Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg ar daith i Norwy. Bu’n rhoi cyflwyniad am y Gymraeg i fudiad ieuenctid yno sydd yn hyrwyddo Nynorsk. Dyma ei hargraffiadau o'r profiad.

Ddechrau Ionawr mi dderbyniais i wahoddiad i fynd draw i Norwy i roi cyflwyniad ar sefyllfa’r Gymraeg i Norsk Målungdom, mudiad ieuenctid sy’n hyrwyddo Nynorsk, sef y ffurf ysgrifenedig leiafrifol ar Norwyeg. Bokmål yw’r ffurf mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei defnyddio, tra bo tua 15% o bobl Norwy, yn y gorllewin yn bennaf, yn defnyddio Nynorsk. Mae’r mudiad yn cynnal gwersyll penwythnos bob gaeaf i’w aelodau ac eleni roedd y gwersyll yn cael ei gynnal ar 24–26 Ionawr yn ardal Dovre, rhyw bedair awr ar y trên o Oslo. Roedd y penwythnos am ddim i’r holl fynychwyr ac roedd  fy nghyflwyniad i yn rhan o raglen lawn dros y penwythnos oedd yn cynnwys sgyrsiau a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd ynghyd â gweithgareddau hwyliog. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn clywed am statws y Gymraeg yng Nghymru a deall yn well beth mae Comisiynydd y Gymraeg a sefydliadau eraill yn ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg. Roeddent hefyd yn awyddus i glywed am agweddau pobl tuag at y Gymraeg gan gymharu ein sefyllfa ni yma yng Nghymru a sefyllfa Nynorsk yno.

Mae gan Norwy, fel ninnau, ddeddf iaith a honno’n darparu ar gyfer gwarchod Norwyeg, hyrwyddo cydraddoldeb rhwng Nynorsk a Bokmål a sicrhau bod sefydliadau cyhoeddus yn gyfrifol am ddatblygu a chryfhau’r ddwy ffurf. Mae’r ddeddf hefyd yno i warchod ieithoedd lleiafrifol yn Norwy fel ieithoedd y Sami. Yn Norwy, mae disgwyl i awdurdodau lleol ddatgan a ydyn nhw’n defnyddio Nynorsk, Bokmål neu ydyn nhw’n niwtral.

Wedi taith hir yn ôl i Oslo, cefais gyfarfod â dau sefydliad arall oedd â diddordeb mewn clywed mwy am waith y Comisiynydd a’r Gymraeg: Noregs Mållag, prif sefydliad ieithyddol Norwy sy’n hyrwyddo Nynorsk, a Språkrådet, y sefydliad sy’n cynghori’r llywodraeth ar faterion ieithyddol ac sy’n rheoleiddio cydymffurfiaeth sefydliadau cyhoeddus â’r ddeddf iaith. Dysgais fod Språkrådet hefyd yn gyfrifol am safoni termau, am ddatblygiadau technoleg iaith ac am safoni enwau lleoedd. Â’m gwaith dydd i ddydd i yn swyddfa’r Comisiynydd yn ymwneud â safoni enwau lleoedd, difyr iawn oedd clywed am ddeddf enwau lleoedd Norwy a grëwyd yn 1990. Mae’r ddeddf yn nodi bod yn rhaid i ffurfiau safonol enwau lleoedd gael eu defnyddio at ddibenion swyddogol, a bod yn rhaid i’r ffurfiau safonol fod yn seiliedig ar ynganiad lleol a thraddodiadol gan lynu at reolau orgraffyddol. Yn yr ardaloedd lle mae Nynorsk ar ei chryfaf, mae’n bosib mai’r sillafiad Nynorsk fyddai’r ffurf safonol a argymhellir ac y disgwylir ei gweld ar arwyddion, er enghraifft.

Mae hanes y ddwy ffurf ysgrifenedig, Nynorsk a Bokmål, yn ddigon unigryw, a’r gymhariaeth orau y gallwn i feddwl amdani oedd meddwl am y gwahaniaethau rhwng tafodiaith a geirfa gogledd a de Cymru. Efallai y bydden ni mewn sefyllfa debyg petai orgraff y Gymraeg heb gael ei safoni ar lefel genedlaethol, gallai pobl o ogledd Cymru fod yn ‘sgwennu fel dani’n sharad’ a phobl o dde Cymru fod yn ysgrifennu ‘fel ma nhw moyn’. Yr un iaith ydi hi, ond byddai yna wahaniaethau yn y sillafu ac yn rhai o’r geiriau. Neu efallai fod hynny’n gor-symleiddio pethau...

Wedi i Norwy ddod yn annibynnol o Ddenmarc a phellhau oddi wrth Ddaneg fel iaith yn 1814, aeth dyn o’r enw Ivar Aasen ati i deithio hyd a lled Norwy yn casglu tafodieithoedd yr ardaloedd gwledig a chreu orgraff safonol yn sgil ei ymchwil. Y gred yw fod tafodiaith yr ardaloedd gweledig hyn yn nes at yr iaith Norwyeg wreiddiol, yn wahanol i dafodiaith y dinasoedd oedd yn debycach i Ddaneg o hyd. Aeth ati i gyhoeddi llyfrau gramadeg a geiriadur ganol y 19eg ganrif a defnyddio’i orgraff ei hun i ysgrifennu a chyhoeddi straeon, cerddi ac ysgrifau. Yr orgraff a greodd Ivar Aasen yw’r hyn sydd wedi datblygu i fod yn Nynorsk heddiw.

Yr argraff roeddwn i’n ei gael yn y gwersyll yn Dovre oedd fod Ivar Aasen wedi troi yn dipyn o chwedl. Roedd yna ffigwr cardfwrdd ohono wrth y drws yn fy nghroesawu i’r ystafell a byddai’r criw ifanc yn morio canu caneuon ganddo bob cyfle rhwng y cyflwyniadau a’r sgyrsiau mwy ffurfiol. A dyna braf oedd gweld y bobl ifanc hyn yn daer dros achos eu hiaith, ond hefyd yn ei dathlu a’i mwynhau hi yr un pryd, rhywbeth rydw i’n credu sy’n bwysig i ninnau yng Nghymru ei wneud. Mae ffurfioli defnydd o iaith leiafrifol yn hollbwysig er mwyn rhoi statws a hygrededd iddi, ond mae chwerthin a chael hwyl yn Gymraeg, ac mewn Nynorsk, llawn mor bwysig. Fel y dywedodd un o’n beirdd ninnau, Mei Mac, un tro:  ‘yn Gymraeg mae’i morio hi, yn Gymraeg y mae rhegi’!