Poster Iaith Gwaith ar ddesg y dderbynfa

Bydd y pum mlynedd nesaf yn dyngedfennol o safbwynt gwireddu’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050. Rhaid cymryd camau breision i sicrhau bod targedau’n cael eu cyrraedd o ran addysg Gymraeg a bod cynnydd yn y cyfleoedd a’r hawliau i ddefnyddio’r iaith. Dyma sylwadau Comisiynydd y Gymraeg mewn ymateb i gyhoeddi rhaglen waith Llywodraeth Cymru ar gyfer y strategaeth Cymraeg 2050.

 

Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd, Gwenith Price: ‘Mae’n galonogol gweld y Llywodraeth yn cyhoeddi’r rhaglen waith mor gynnar yn nhymor y Senedd newydd, a bod y pwyslais ar gynnal momentwm. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r Llywodraeth er mwyn dod â budd i siaradwyr Cymraeg, a gwarchod a chynyddu bywiogrwydd yr iaith yn ein cymunedau.’

 

Un o’r meysydd lle mae’r mwyaf o gydweithio rhwng y Llywodraeth a’r Comisiynydd yw ar gyflwyno safonau’r Gymraeg. Rhain yw’r dyletswyddau gaiff eu gosod ar sefydliadau cyhoeddus i ddefnyddio ac ystyried y Gymraeg, gan sicrhau cysondeb ac ansawdd gwasanaethau yn yr iaith. Daeth y set ddiweddaraf o safonau i rym fis Mehefin 2018.

 

Dywedodd Gwenith Price: ‘Er mwyn galluogi’r Comisiynydd i osod safonau, mae’n rhaid i’r Llywodraeth baratoi safonau a chyflwyno rheoliadau, ac rydym wedi cyflwyno rhaglen iddynt ei hystyried ar gyfer symud y gwaith hwn yn ei flaen cyn gynted â phosibl, ac eisoes wedi dechrau trafod y gwaith hwn â nhw.’

 

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn cydnabod mai’r system addysg a hyfforddiant yw’r prif ddull o greu siaradwyr Cymraeg ac o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr. Mae’n gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu cyfran y dysgwyr sy’n gadael addysg statudol yn gallu siarad Cymraeg.

 

Ychwanegodd Gwenith Price: ‘Er bod rhai datblygiadau clodwiw wedi bod yn ystod y pum mlynedd diwethaf i gyflwyno’r iaith i ragor o blant a phobl ifanc drwy’r gyfundrefn addysg, nid oes tystiolaeth o gynnydd sylweddol. Fel mae’r Llywodraeth yn ei gydnabod, mae’n rhaid cymryd camau breision i sicrhau’r twf mawr a ddymunir. Golyga hyn ddatblygu strategaeth i hyfforddi digon o athrawon all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg,  cynyddu cyfran y cwricwlwm gaiff ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion dwyieithog ac ysgolion cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd. Edrychwn ymlaen at gyfrannu syniadau ac argymhellion ar sut i gyflawni hyn pan fydd y Llywodraeth yn ymgynghori ar y Ddeddf Addysg Gymraeg maes o law.’

 

Diwedd.