- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook
Yn ddiweddar bu Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg ar ymweliad â Belfast i gyfarfod â’r comisiynwyr iaith newydd yno ac ymweld â nifer o fentrau cymdeithasol. Yma mae Dr Eleri James, Uwch Swyddog Ymchwil ac Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg, fu hefyd ar y daith, yn cyflwyno ychydig o'r hanes.
Ná habair é, déan é – paid â siarad amdano fe, gwna fe! Mae’r ymadrodd hwn yn crynhoi ysbryd, angerdd ac uchelgais nifer o’r mentrau cymunedol y cawsom y fraint o ymweld â nhw yn ystod ein taith i Felfast. Mewn dinas sydd wedi gweld newid cymdeithasol a gwleidyddol sylweddol dros y degawdau diwethaf, roedd yr egni a'r ymrwymiad i gynnal eu hiaith a’u hunaniaeth yn amhosibl ei anwybyddu.
Cawsom gyfle i weld ystod eang o fentrau cymunedol sy'n cyfrannu at fywiogrwydd yr Wyddeleg ym Melfast heddiw. Mae deddfwriaeth a hawliau ieithyddol yn hollbwysig, ond fel yr ydym yn ymwybodol iawn yma yng Nghymru, er mwyn i ieithoedd ffynnu go iawn rhaid eu defnyddio mewn cymunedau, gweithleoedd, canolfannau diwylliannol, gorsafoedd radio, caffis a mannau cymdeithasol.
Roedd gweld y gwaith sy'n digwydd yn Cultúrlann Mac Adam Ó Fiaich, Cumann Chluain Árd, Raidió Fáilte, ANAM Caife / Glór na Móna a Gaelchúrsaí yn dystiolaeth fyw o hynny. Er bod gan bob sefydliad ddiben gwahanol, roedd ganddynt nod cyffredin: creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu hiaith yn naturiol ac yn hyderus yn rhan o'u bywydau bob dydd.
Trefnwyd yr ymweliad gan Pól Deeds, An Coimisinéir Gaeilge, Comisiynydd newydd yr Wyddeleg, ac roedd yn gyfle hefyd i gwrdd am y tro cyntaf â’r Comisiynydd newydd Ulster Scots, Lee Reynolds, yn ogystal â Dr Katy Radford, Cyfarwyddwr y Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol a sefydlwyd gan yr un ddeddfwriaeth. Mae'r sefydliadau hyn i gyd yn gymharol newydd ac yn wynebu'r her o sefydlu swyddfeydd a phrosesau, recriwtio staff, meithrin ymddiriedaeth a rhoi eu deddfwriaeth ar waith.
Roedd yr ymweliad yn gyfle i gynnig cefnogaeth ymarferol a rhannu profiad ugain mlynedd a mwy o ddatblygu hawliau ieithyddol a safonau'r Gymraeg. Mae’r ddau Gomisiynydd newydd wedi eu derbyn bellach yn Aelodau Arsylwi o Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi wrth iddyn nhw sefydlu eu swyddfeydd. Prif genhadaeth Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yw cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd a chefnogi comisiynwyr iaith fel eu bod yn gallu gweithio gan gadw at y safonau proffesiynol uchaf. Ac un o brif amcanion y gymdeithas yw cefnogi rhanbarthau sy’n dymuno creu swydd comisiynydd iaith. Rydym yn eithriadol o falch felly o’r cyfle i gefnogi’n ymarferol gomisiynwyr iaith newydd sbon mor agos at gartre mewn gwirionedd ac mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
Un o uchafbwyntiau'r ymweliad oedd gweld Efa yn cyfrannu at drafodaeth banel fywiog mewn cynhadledd gyhoeddus hanesyddol wedi’i chynllunio i gefnogi gweithredu'r ddeddfwriaeth newydd. Nod y gynhadledd oedd rhannu’r arferion gorau yn rhyngwladol â chyrff cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon sy’n dechrau paratoi i weithredu eu deddfwriaeth, ac i ystyried yn ehangach sut mae cefnogi ieithoedd lleiafrifol yn y pau cyhoeddus. Roedd llawer o'r cwestiynau a'r pryderon a godwyd yn swnio'n gyfarwydd iawn – costau, ymarferoldeb a'r her o newid diwylliant sefydliadol. Ar lawer ystyr, roedd yn atgoffa rhywun o'r sgyrsiau a gafwyd yng Nghymru pan ddaeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar y llyfrau statud.
Ein gobaith felly yw bod cyfraniad Efa wedi cynnig sicrwydd yn ogystal ag ysbrydoliaeth. Mae profiad Cymru’n dangos, nid yn unig bod newid yn bosibl, ond ei fod yn gallu arwain hefyd at well gwasanaethau, rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith a mwy o hyder ymhlith siaradwyr. Roedd yn gyfle i rannu profiadau'n onest – y llwyddiannau, ond hefyd y gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd. Ond mae profiad Cymru hefyd yn dangos i ni nad yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon i sicrhau dyfodol iaith. Gall deddfau greu’r amodau ar gyfer llwyddiant, ond pobl, cymunedau a sefydliadau sy’n rhoi bywyd i iaith.
Wrth gwrs, nid ymweliad unochrog i roi cyngor a rhannu o’n profiad ni yn unig oedd hwn. Roedd hefyd yn gyfle i ni ddysgu. Ac yn wir, mae gennym lawer i’w ddysgu o’r modd y mae’r comisiynwyr yno yn ymlafnio i hyrwyddo eu hiaith a’u diwylliant, a dod â phobl ynghyd, mewn cyd-destun gwleidyddol gwahanol iawn i’n un ni yma yng Nghymru. Cawsom ein hysbrydoli yn benodol hefyd gan angerdd y mentrau cymunedol lleol a chan eu parodrwydd i weithredu, yn aml heb aros am ganiatâd na chefnogaeth ffurfiol. Atgoffwyd ni gan eu hagwedd fod dyfodol unrhyw iaith yn dibynnu nid ar ddeddfwriaeth a sefydliadau yn unig, ond hefyd ar egni a menter ei siaradwyr.
Wrth inni barhau i ddatblygu’r berthynas hon dros y blynyddoedd nesaf, edrychwn ymlaen at rannu profiadau, dysgu oddi wrth ein gilydd a cheisio cefnogi cymuned ehangach o sefydliadau sy'n gweithio dros hawliau ieithyddol ac amrywiaeth ddiwylliannol ar draws yr ynysoedd hyn. Wedi’r cyfan, dyna’r wers a atgoffwyd ni ohoni ym Melfast: Ná habair é, déan é – peidiwch â siarad am newid yn unig, ewch ati i’w wireddu.
Gadawsom wedi ein hysbrydoli gan eu hegni a'u hymrwymiad i wneud y pethau bychain, i ddyfalbarhau ac i freuddwydio’n fawr – Go raibh maith agaibh am y croeso cynnes.