Clawr yr adroddiad

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2024–25, gan amlygu cynnydd a heriau wrth i sefydliadau cyhoeddus fynd ati i gyflawni eu dyletswyddau iaith. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu blwyddyn arall o waith manwl i fonitro, asesu a hyrwyddo cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg a chynlluniau iaith ar draws sectorau cyhoeddus a gwasanaethau. 

Yn ôl y Comisiynydd, mae’r adroddiad yn dystiolaeth o’r ymrwymiad parhaus i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu byw eu bywydau drwy’r Gymraeg, ac i sicrhau bod sefydliadau’n gweithredu’n effeithiol, yn atebol ac yn uchelgeisiol wrth gyflawni eu dyletswyddau.

Prif ganfyddiadau’r Adroddiad

Gwelliant cyson mewn cydymffurfiaeth 

Mae sawl sefydliad bellach wedi gwreiddio’r safonau iaith yn eu gwaith dyddiol, yn enwedig mewn meysydd fel cyhoeddi dogfennau, cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion swyddi.

Heriau mewn gwasanaethau rheng flaen

Gwasanaethau ffôn a derbynfeydd yw’r meysydd mwyaf heriol, gyda lefelau cydymffurfiaeth yn parhau’n isel a chynnydd yn araf.

Sectorau blaenoriaeth – Iechyd ac Addysg 

Er bod cynnydd yn weledol ar wefannau ac mewn dogfennau, mae bylchau’n parhau mewn meysydd fel ffurflenni a gwasanaethau ffôn ac mae angen parhau i fuddsoddi mewn datblygu sgiliau’r gweithlu o fewn y sectorau.

Hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg 

Mae sefydliadau’n dangos amrywiaeth mawr yn y modd y maent yn hyrwyddo eu gwasanaethauCymraeg—mae arloesedd gan rai, tra bod eraill yn methu cyfleu argaeledd gwasanaethau Cymraeg yn effeithiol.

Adolygu a chryfhau Cynlluniau Iaith 

Anogir sefydliadau i gynllunio’n strategol er mwyn sicrhau bod y gwaith o baratoi ar gyfer pontio i gyfundrefn safonau’r Gymraeg yn dechrau’n brydlon ac ar sail gadarn.

Ymateb i newidiadau polisi 

Dylai sefydliadau ystyried argymhellion y Comisiynydd wrth adolygu strategaethau 5 mlynedd i hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau bod y strategaethau diwygiedig yn adlewyrchu’r newidiadau polisi a deddfwriaethol sydd ar y gorwel – gan gynnwys gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, yn ogystal ag unrhyw gamau gweithredu sy’n deillio o adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.  

Llywodraethiant a monitro perfformiad 

Galwyd am gryfhau trefniadau llywodraethu, adrodd a chwynion, a sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i drafodaethau bwrdd a phrosesau monitro perfformiad.

Cyd-reoleiddio

Mae’r dull hwn wedi parhau i ddatblygu, gan feithrin diwylliant o hunanreoleiddio ochr yn ochr â chraffu cadarn, gyda’r chwe deilliant rheoleiddio’n gosod disgwyliadau clir a mesuradwy.

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion clir ar gyfer pob un o’r chwe deilliant rheoleiddio, gan annog sefydliadau i weithredu’n fwriadol ac yn strategol i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o’u gwasanaethau, eu diwylliant sefydliadol a’u gwaith. 

Yn ôl Alison Dods, Uwch Arweinydd yr Iaith Gymraeg, Adran Gwaith a Phensiynau: 

Mae’r adroddiadau hyn gan Gomisiynydd y Gymraeg yn adnodd amhrisiadwy sydd wedi cefnogi'r Adran Gwaith a Phensiynau dros y blynyddoedd i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel i'n cwsmeriaid yng Nghymru. Maent, nid yn unig yn darparu meincnod clir ar gyfer ein cydymffurfiaeth â'r Cynllun Iaith Gymraeg, ond hefyd yn gyrru gwelliant parhaus ar draws ein gwasanaethau.’ 

Meddai Ben Screen, Arweinydd y Gymraeg gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

Mae’r adroddiadau hyn yn ffordd bwysig o adnabnod tueddiadau cyffredinol a gweld lle mae angen gwaith. Mae’r adroddiadau hefyd yn ffordd dda iawn o weld beth sy’n digwydd mewn sefydliadau eraill, i ddysgu o arferion effeithiol. Maen nhw’n rhan bwysig o gynllunio blaenoriaethau’r flwyddyn sydd i ddod, i sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd gyda beth hoffai’r Comisiynydd ei weld hefyd”.

Mae’r adroddiad ar gael yma i’w ddarllen yn llawn neu i ddarganfod sut mae’ch sefydliad yn perfformio.