Parc Margam

 hanner tymor y Sulgwyn yn nesáu, rydan ni yn swyddfa’r Comisiynydd wrthi’n paratoi at Eisteddfod yr Urdd unwaith eto ac yn croesi bysedd y bydd yr haul yn gwenu dros Barc Margam. Mae hi wastad yn braf cael dianc o’r swyddfa am ddiwrnod i weithio ar y stondin yn y Steddfod, i sgwrsio efo rhieni sy’n piciad draw i nôl bathodyn oren i roi ar eu dillad gwaith ac i glywed hanes y plant sy’n heidio i nôl sticeri rhwng yr holl gystadlu.

Mae hi hefyd yn braf cael esgus i ymweld â chornel fach arall o Gymru wrth i’r Steddfod deithio o le i le. Gan fod fy ngwaith bob dydd i yn swyddfa’r Comisiynydd yn ymwneud ag enwau lleoedd, dyma feddwl bachu ar y cyfle i edrych ar rai o enwau lleoedd ardal y Steddfod eleni, i ddod â’r enwau ar y map yn fyw a dysgu ’chydig am hanes yr ardal drwy lens yr enwau difyr sy’n britho’r rhan fach yma o Gymru. Fel mae enw’r Steddfod, Dur a Môr, yn ei awgrymu, mae ôl diwydiant yn drwm ar yr ardal a’r môr yn gefnlen i ffatrïoedd mawr Port Talbot.

Mi ddechreuwn ni ein taith ar lan y môr ym Mhorthcawl cyn crwydro’r arfordir draw am Bort Talbot, lle sy’n dwyn enw Christopher Rice Mansel Talbot, tirfeddiannwr a aeth ati i adnewyddu’r porthladd (neu’r ‘port’) yn Aberafan yn y 19eg ganrif. Ymlaen wedyn i bentref hardd Merthyr Mawr lle mae’r tai to gwellt fel llun cerdyn post a Chastell Ogwr dafliad carreg o’r pentref. A sôn am gerrig, os ewch chi draw at Gastell Ogwr bydd rhaid croesi’r cerrig camu hardd dros afon Ewenni i gyrraedd yno.

Mae sir Castell-nedd Port Talbot yn ymfalchïo yn y ffaith i ambell i actor byd-enwog gael ei fagu yno, a’r enwocaf o bosib oedd Richard Burton a fagwyd ym Mhont-rhyd-y-fen. Mae’r enw Pont-rhyd-y-fen yn dweud rhywbeth am y lle wrthyn ni’n syth ac yn cofnodi dwy ffordd o groesi afon Afan sy’n llifo drwy’r pentref – drwy ryd ac yn ddiweddarach dros bont. Wrth grwydro i ogledd y sir a chyffwrdd yn ymylon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fe ddown ni at Fro’r Sgydau fel mae’n cael ei adnabod lle mae sawl ‘sgwd’ neu raeadr. At Sgwd Gwladus yr awn ni y tro hwn, a Gwladus yn enw un o ferched Brychan Brycheiniog mae’n debyg.

Ac mi orffennwn ni’r daith ym Mharc Margam, lle a fydd dan ei sang o gystadleuwyr ac o stondinwyr brwd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd. Mae rhai’n credu mai enw sant yw Margam, ac roedd Margam yn bentref ynddo’i hun cyn iddo gael ei lyncu gan dref Port Talbot.

Os hoffech chi wybod mwy am ystyron yr enwau hyn, gwyliwch y fideos yn fan hyn. Ac efallai y cewch chithau eich ysbrydoli i ymweld â rhai o’r llefydd a sylwi ar yr enwau tlws sy’n rhoi i’r ardal yma ei gymeriad unigryw.