Graffeg yn cynnwys sawl eicon megis arwyddion, map o Gymru, ffurflenni a swigod siarad.

Caiff adroddiad newydd ar sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru ei gyhoeddi ar 21 Hydref gan Gomisiynydd y Gymraeg. Bwriad yr adroddiad yw cyflwyno darlun o sefyllfa’r iaith a phrofiadau siaradwyr Cymraeg yn ystod y cyfnod gan amlinellu’r  datblygiadau mwyaf arwyddocaol dros y pum mlynedd diwethaf.

Ymysg y datblygiadau hyn mae cyflwyno hawliau newydd i ddefnyddio’r Gymraeg, a mabwysiadu targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r adroddiad yn cyflwyno argraffiadau a chasgliadau’r Comisiynydd am sefyllfa’r Gymraeg ar draws meysydd polisi sy’n effeithio ar siaradwyr Cymraeg. Cyhoeddir podlediad cyntaf y Comisiynydd i gyd-fynd â’r adroddiad, lle mae Aled Roberts yn rhannu ei brif ganfyddiadau am y cyfnod a’i obeithion am y pum mlynedd sydd i ddod.

Mae’r Comisiynydd yn cydnabod yr ymdrechion gan fudiadau a sefydliadau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad ac o fewn gweithleoedd. Mae’r cynnydd hwn yn sail i fod yn obeithiol am ddyfodol y Gymraeg mewn rhai amgylchiadau.  Ar y llaw arall, mae’n tynnu sylw at wendidau a’r angen i ddatblygu a gwella dros y blynyddoedd nesaf. Meddai Aled Roberts: ‘Mae nifer o feysydd lle na welwyd cynnydd digonol, lle collwyd cyfleon, neu lle na roddwyd ystyriaeth deg a theilwng i’r Gymraeg. Rwy’n tynnu sylw at y materion hynny yn yr adroddiad ac yn dod i gasgliadau a fydd angen eu hystyried gan lunwyr polisi yng Nghymru.’

Un o’r datblygiadau sy’n cael sylw yn yr adroddiad yw’r hawliau cyfreithiol newydd i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae 123 o sefydliadau yn gweithredu safonau’r Gymraeg bellach, gan gynnwys sefydliadau yn y gwasanaeth iechyd, colegau a phrifysgolion, heddluoedd a chynghorau sir. Bum mlynedd ers i’r safonau gael eu cyflwyno gyntaf, mae’r adroddiad yn casglu data am eu dylanwad.

Dywed Aled Roberts, ‘Mae tystiolaeth yn yr adroddiad yn dangos bod rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ers cyflwyno’r safonau. Rydw i eisiau gweld ehangu’r safonau ar draws y sector cyhoeddus, a rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt.’

Mae cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn dibynnu ar allu’r gyfundrefn addysg i greu siaradwyr newydd. Ceir dadansoddiad manwl ar ddata am y gyfundrefn addysg yn yr adroddiad, ynghyd â chasgliadau pendant am yr angen i weddnewid y drefn bresennol. Ar hyn o bryd, 22% o blant oed cynradd sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw cynyddu’r ganran hon i 40% erbyn 2050. Mae targed hefyd i sicrhau bod 50% o’r disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn dod yn siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

‘Mae angen chwyldro yn y byd addysg neu bydd y weledigaeth o filiwn o siaradwyr yn methu,’ meddai Aled Roberts. ‘Ar hyn o bryd does dim digon o athrawon. Mae angen gwneud llawer mwy i ddenu siaradwyr Cymraeg i’r proffesiwn, a datblygu sgiliau iaith Gymraeg yr athrawon hynny sy’n addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.’

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at argraffiadau cynnar y Comisiynydd am effeithiau Brexit a COVID-19 ar y Gymraeg. Nid yw’r iaith wedi bod yn ystyriaeth ganolog yn y cynlluniau adfer, ac mae’r Comisiynydd yn rhybuddio y gallai hynny gael effaith andwyol hirdymor ar ddyfodol yr iaith.