Nia a Nia

Disgrifiwch eich sefydliad

Caiff Y Pethau Bychain ei redeg gan ddwy gyn-athrawes, Nia Dooley a Nia Jewell. 
Mae ‘Y Pethau Bychain’ yn cynnig pecynnau digidol, hyfforddiant ac ymarferion ar gyfer ysgolion, athrawon, teuluoedd a gweithleoedd, gan ganolbwyntio ar brofiadau synhwyraidd, a lles sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymgysylltu â byd natur.

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i arwain ac ymateb i brosiectau cenedlaethol fel Gwreiddiau Gwyllt gyda Mentrau Iaith Cymru, a’r fenter ELWA – Lles yn y Gweithle, ar y cyd â phartneriaid YEM Mentoring a CELS Cymru, sy’n cynnig cefnogaeth drwy’r Gymraeg i fusnesau, gweithleoedd a mentrau cymdeithasol.

Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n eu cynnig?

Mae ein holl wasanaethau ar gael yn y Gymraeg – nid fel cyfieithiad yn unig, ond fel pwynt cychwyn ac egwyddor sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys pecynnau digidol i ysgolion, hyfforddiant i addysgwyr, sesiynau llesiant corfforaethol, a deunyddiau i rieni a theuluoedd. Rydym hefyd yn defnyddio’r Gymraeg yn ein cyfathrebu bob dydd gyda chwsmeriaid, partneriaid a chyfranogwyr.

Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?

Rydym yn gweld y Gymraeg fel ffordd o fynegi cysylltiad dwfn â’n tirwedd, ein cymunedau a’n hunaniaeth. Nid iaith weinyddol mohoni – ond iaith sydd â phŵer i greu gofodau llesol, diogel a phersonol. Mae defnyddio’r Gymraeg yn ein gwaith yn ffordd o feithrin perthyn a chreadigrwydd ym mhob cyd-destun.

Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg…

Roedd yn gyfle i ail-werthuso a chryfhau’r hyn oedd eisoes yn rhan naturiol o’n gwaith. Buom yn ystyried profiad y defnyddiwr, sut y gallwn gynnig mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn mapio sut mae’r iaith yn llifo drwy ein gwaith. Roedd y broses yn gadarnhaol gan osod llwybr clir ar gyfer twf cynaliadwy yn y Gymraeg.

Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?

Mae’n dystiolaeth annibynnol o’n hymrwymiad i’r iaith ac yn arwydd i’n cwsmeriaid, ein partneriaid a’r cyhoedd ein bod yn gweithredu’n gydwybodol, yn bwrpasol ac yn falch o’r Gymraeg fel rhan annatod o’n hunaniaeth.

Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?

Mae’r Cynnig wedi codi ymwybyddiaeth o’n gwaith ac wedi cryfhau’r cysylltiadau gyda sefydliadau Cymraeg. Rydym wedi gweld twf yn y diddordeb gan ysgolion, mentrau cymdeithasol a busnesau sy’n chwilio am ddarpariaeth llesiant drwy’r Gymraeg.

Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?

Mae’n cynnig profiad mwy personol, cyd-destunol ac emosiynol i’r defnyddiwr. Mae pobl yn ymlacio, yn dysgu ac yn myfyrio’n fwy dwys pan gânt wneud hynny yn eu hiaith gyntaf. Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg hefyd yn normaleiddio defnydd o’r iaith ac yn cryfhau ymdeimlad o berthyn.

Yw’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith?

Ydy – mae wedi rhoi eglurder a strwythur i’n darpariaeth Gymraeg. Mae’n ein helpu i gyfathrebu’n glir â phartneriaid, i lunio cynnwys newydd yn fwriadol, ac i nodi cyfleoedd i ehangu ein cyrhaeddiad. Mae hefyd wedi rhoi llwyfan i ddathlu’r hyn rydym eisoes yn gwneud yn dda.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer cryfhau eich gwasanaethau Cymraeg?

Rydym yn datblygu pecynnau digidol newydd a sesiynau llesiant drwy’r Gymraeg ar gyfer ysgolion a busnesau. Byddwn yn ehangu’n cynnig hyfforddiant i athrawon a gweithwyr, ac yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill i rannu dulliau ac arferion da ar draws y sector addysg a lles.

Fyddech chi’n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?

Mae’n broses sy’n codi eich ymwybyddiaeth eich hun o’ch darpariaeth, yn eich herio mewn ffordd gadarnhaol, ac yn cynnig cefnogaeth a chyfeiriad. Mae hefyd yn gwneud gwahaniaeth i sut mae cwsmeriaid yn eich gweld.

Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?

Mae’r Gymraeg yn grymuso, nid yn cyfyngu. Mae’r Cynnig Cymraeg yn gam naturiol i unrhyw sefydliad sydd eisiau creu effaith foesol ac ymarferol.