Angela

Disgrifiwch beth rydych chi'n ei wneud.

Y Gymdeithas Strôc yw’r unig elusen yn y DU sy'n darparu cefnogaeth gydol oes i bob goroeswr strôc a'u teuluoedd.

Beth mae'n ei olygu i'r Gymdeithas Strôc fod yn un o'r sefydliadau cyntaf i dderbyn y Cynnig Cymraeg?

Roedd derbyn y Cynnig Cymraeg yn garreg filltir arwyddocaol i ni ac yn tanlinellu ein hymrwymiad i gynhwysiant a'n hymroddiad i wasanaethu'r gymuned sy'n siarad Cymraeg. Mae bod yn un o'r sefydliadau cyntaf i dderbyn y gydnabyddiaeth hon yn pwysleisio ein dull rhagweithiol o sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i bawb.

Mae gallu cynnig cefnogaeth yn y Gymraeg yn helpu i leihau straen a phryder, cefnogi gwell cyfathrebu, a helpu goroeswyr strôc i dderbyn y gofal a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt yn eu hiaith ddewisol.

Pa newidiadau neu welliannau ydych chi wedi'u gweld dros y 5 mlynedd diwethaf o ran defnyddio'r iaith Gymraeg yn y gwasanaethau rydych chi'n eu cynnig?

Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am gyfathrebu yn y Gymraeg. O ganlyniad rydym wedi datblygu mwy o adnoddau dwyieithog, ac wedi integreiddio opsiynau iaith Gymraeg i'n llwyfannau digidol. Mae'r gwelliannau hyn wedi gwneud ein gwasanaethau yn fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr sy'n siarad Cymraeg.

Wrth edrych yn ôl dros y pum mlynedd diwethaf, beth ydych chi fwyaf balch ohono ers derbyn y Cynnig Cymraeg?

Rydym yn falch o'r effaith gadarnhaol y mae ein gwasanaethau Cymraeg wedi'u cael ar oroeswyr strôc a'u teuluoedd. Mae'r adborth rydym wedi'i dderbyn wedi bod yn gadarnhaol, ac mae'n galonogol gweld sut mae ein hymdrechion wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau.

Yn ddiweddar fe wnaethon ni gomisiynu Prifysgol Metropolitan Caerdydd  i edrych ar anghenion a phrofiadau goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg . Mae'r adroddiad yn dweud bod darparu gwasanaethau gofal iechyd yn iaith ddewisol rhywun wedi cael ei gydnabod ers amser maith fel rhywbeth pwysig ac ar gyfer goroeswyr strôc gall fod yn hanfodol i'w hadferiad. Gellir dod o hyd i'r adroddiad llawn ar wefan y Gymdeithas Strôc.

Rydym hefyd yn falch o'r grŵp Paned a Sgwrs, grŵp anffurfiol, sy'n cynnig i oroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg gysylltu ag eraill a sgwrsio. Mae'r grŵp hwn wedi bod yn allweddol wrth helpu goroeswyr i adennill hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ac annog yr holl staff a gwirfoddolwyr i ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn annog amgylchedd dwyieithog.

Pa heriau ydych chi wedi'u hwynebu wrth ddatblygu a chynnal gwasanaethau Cymraeg, a sut wnaethoch chi eu goresgyn?

Rydym wedi wynebu ychydig o heriau, fel sicrhau bod gennym ddigon o staff sy'n siarad Cymraeg. I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi bod yn recriwtio gweithwyr proffesiynol dwyieithog ac  annog ein tîm presennol i ddysgu Cymraeg.

Pam mae'n bwysig i wasanaethau gofal iechyd a chefnogaeth gynnig y dewis i bobl dderbyn cymorth yn y Gymraeg?

Mae cynnig cymorth yn y Gymraeg yn hanfodol oherwydd ei fod yn parchu hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol y gymuned sy'n siarad Cymraeg. Pan fyddwch yn cefnogi pobl yn eu hiaith ddewisol, gall wella eu dealltwriaeth yn sylweddol – yn enwedig mewn lleoliad gofal iechyd lle gallant deimlo'n fregus.

Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer datblygu cefnogaeth iaith Gymraeg o fewn y Gymdeithas Strôc yn y dyfodol?

Mae ein huchelgeisiau yn cynnwys ehangu ein gwasanaethau iaith Gymraeg ymhellach i gyrraedd mwy o oroeswyr strôc a'u teuluoedd. Rydym am ddatblygu adnoddau dwyieithog mwy cynhwysfawr, cynyddu nifer ein staff sy'n siarad Cymraeg, a datblygu ein darpariaeth ddigidol ymhellach. Yn ogystal, rydym yn bwriadu ymgysylltu mwy â'r gymuned sy'n siarad Cymraeg i ddeall eu hanghenion yn well a pharhau i wella ein gwasanaethau.