Cynllun iaith RNIB

Mae RNIB yn elusen sy'n helpu pobl ddall neu â golwg rhannol i fyw'n annibynnol a mwynhau gweithgareddau bob dydd. Darllenwch am eu profiad o dderbyn y Cynnig Cymraeg isod. 

Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n cynnig?

Mae RNIB Cymru yn falch o gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau a cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobl ddall neu â golwg rhannol yng Nghymru gan gynnwys y canlynol: 

  • Trawsgrifiad personol Cymraeg mewn fformatau hygyrch 
  • Darparu lleisiau testun-i-leferydd Cymraeg a chyngor am dechnoleg gynorthwyol Cymraeg  
  • Gall ein cwsmeriaid gysylltu â siaradwyr Cymraeg eraill sydd â cholled golwg drwy ein grŵp sgwrsio Cyswllt Cymunedol 
  • Mae ein Gwasanaeth Cyngor Colled Golwg ar gael yn Gymraeg 
  • Rydym yn croesawu gohebiaeth gan ein cwsmeriaid yn Gymraeg 
  • Mae RNIB Cymru yn defnyddio’r Gymraeg ar ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol 
  • Mae cyhoeddiadau a llyfrynnau gwybodaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg 
  • Mae staff a gwirfoddolwyr yn cael cyfle i ddysgu’r iaith neu loywi eu Cymraeg drwy fynychu cyrsiau ar-lein a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol 

Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?

Nid dewis yn unig yw cael yr opsiwn i ddefnyddio ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n fwy cyfforddus yn mynegi eu hunain yn Gymraeg, yn teimlo’n fwy hyderus yn cyfathrebu eu hanghenion yn Gymraeg ac mae hyn yn arbennig o wir pan fydd cwsmeriaid yn trafod materion sensitif.  

Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.

Mae RNIB Cymru wedi darparu rhywfaint o wasanaethau Cymraeg ers degawdau ac felly roedd paratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg yn gam naturiol tuag at wella ein darpariaeth, yn enwedig o ran hyrwyddo gwasanaethau.  

Dechreuodd ein taith drwy gwblhau arolwg cynhwysfawr o’n defnydd presennol o’r Gymraeg ar draws y sefydliad ac fe ddaeth yn amlwg ble oedd ein cryfderau a’n gwendidau.  

Fe wnaeth hyn sbarduno sgyrsiau adeiladol yn fewnol ac roedd yn gyfle gwych i atgoffa pawb am ein hymrwymiadau a phwysleisio gwerth cynnig gwasanaethau Cymraeg. Roedd y tîm yn wych wrth gynnig adborth a thrafod syniadau ar gyfer ein targedau ac i helpu gyda newid meddylfryd i fod yn fwy rhagweithiol wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg.  

Unwaith roedd consensws ar draws ein sefydliad a thargedau ar waith roedd y broses o ymgeisio am gymeradwyaeth yn glir ac yn gyflym. 

Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?

Arian cyhoeddus yw llawer o gyllid RNIB Cymru. Mae dyletswydd arnon ni felly i sicrhau darpariaeth ddwyieithog i’r cyhoedd yn unol â’n canllawiau cyllido.  

Yn bwysicach, mae RNIB yn credu bod cynnig gwasanaethau yn iaith ddewisol cwsmer yn rhan annatod o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid da a chyfle cydradd mewn cenedl ddwyieithog. 

Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?

Mae derbyn y Cynnig Cymraeg wedi gwella ansawdd ein gwasanaethau ac yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid bod RNIB wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon uchel.  

Mae’n ei gwneud hi’n amlwg ein bod ni’n elusen sydd wedi gwreiddio yng Nghymru, yn amlinellu ein hymrwymiadau i’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg. Mae’r gymeradwyaeth yn sicrhau cynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb yng Nghymru ac yn adlewyrchu ein cymunedau’n gywir.  

Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?

Mae cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn rhoi dewis go-iawn i’n defnyddwyr.  

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n fwy cyfforddus yn mynegi eu hunain yn Gymraeg, ac yn teimlo’n fwy hyderus yn cyfathrebu eu hanghenion yn y Gymraeg, yn meddwl ac yn byw eu bywydau yn Gymraeg.  

Mae teimlo’ch bod yn gallu mynegi eich hun a theimlo’n gyfforddus a hyderus i gyfathrebu gyda darparwr gwasanaeth yn hollbwysig, er enghraifft wrth dderbyn diagnosis o golled golwg. 

Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith?

Mae paratoi ar gyfer derbyn y Cynnig Cymraeg wedi ein hysgogi i newid ein hagweddau i fod yn fwy rhagweithiol wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg a sicrhau mwy o gysondeb yn ein darpariaeth drwy adolygu prosesau a gweithdrefnau mewnol a’u monitro’n gyson.  

Mae’r Cynnig hefyd wedi rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ar agweddau newydd megis cynnig cyfleoedd i ddysgu’r iaith yn y gweithle a phwysleisio ein gwasanaethau trawsgrifio a thechnoleg gynorthwyol.  

Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?

Yn sicr, mae’r broses o ymgeisio yn rhwydd ac mae staff swyddfa’r Comisiynydd yn barod iawn i helpu. Mae’r broses wedi ein ysgogi ni i ailfeddwl am sut rydyn ni’n gweithio ac wedi gwella ansawdd ein gwasanaethau. Ein gobaith yw y bydd hyn yn gwella ein cyrhaeddiad ar draws Cymru. 

Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?

Ewch amdani, mae’n gyfle gwych i wella a hyrwyddo eich gwasanaethau. Mae swyddfa’r Comisiynydd yn wych o ran cynnig cymorth ac mae’r broses o ymgeisio yn syml ac yn eglur.  

Yn ymarferol wrth ddatblygu’r cynllun mae’n helpu os allwch sicrhau cefnogaeth gan unigolion o’r uwch dimau rheoli ac i rannu arfer da rhwng y timau o fewn eich sefydliad. Byddwch yn bositif a manteisiwch ar y cyfle.