Criw ifanc o GISDA

Mae GISDA yn elusen sy’n darparu llety, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc digartref a/neu bregus yng Ngwynedd i’w galluogi i symud o gefnogaeth i annibyniaeth.  

Darllenwch am eu profiad o dderbyn y Cynnig Cymraeg isod. 

Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n cynnig? 

Rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc ar amryw o faterion megis atal digartrefedd, sgiliau byw’n annibynnol, profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli, cefnogaeth iechyd meddwl a llawer mwy, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi? 

Mae defnyddio’r Gymraeg yn bwysig iawn i ni. Mae’n golygu ein bod yn gallu cynnig gwasanaethau cefnogol yn Gymraeg i bobl ifanc, a bod ein staff yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Drwy hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg mae’n normaleiddio’r iaith ymysg y bobl ifanc, ac yn eu hannog i ddefnyddio’r sgiliau sydd ganddyn nhw. Nid ydym yn ystyried ein hunain fel sefydliad sydd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg yn ychwanegol i’n gwasanaethau craidd, mae’r Gymraeg yn rhan annatod o waith a hunaniaeth GISDA ers ei sefydlu.  

Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.  

Cyn cychwyn y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg yn 2021 roeddem yn gwybod bod eisoes arferion da yn y cwmni, ond rhoddodd gyfle i ni ystyried ein gwasanaethau fesul un a disgrifio beth yn union oedden ni’n gynnig, a pwy oedd yn gyfrifol am weithredu hyn. Roedd rhai newidiadau yn hawdd i’w rhoi ar waith ac eraill yn cymryd mwy o amser i gynllunio a gweithredu, ond roedd y cwbl yn cyfrannu tuag at godi safon ein gwasanaeth.  

Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg? 

Fel elusen sydd wedi’i lleoli yng Ngwynedd, mae cynnig gwasanaeth Cymraeg yn hollbwysig er mwyn ateb anghenion defnyddwyr ein gwasanaeth ac i adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt.  

Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg? 

Mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn farc ansawdd swyddogol o safon ein darpariaeth Gymraeg ac mae’n ffordd i ddangos yn gyhoeddus ein bod o ddifri am y Gymraeg yn ein sefydliad. Drwy weithio gyda swyddfa’r Comisiynydd mae wedi ein galluogi i wneud cysylltiadau gwerthfawr gyda sefydliadau eraill yn y trydydd sector, rhai sydd eisoes wedi derbyn y Cynnig Cymraeg ac eraill yn gweithio tuag ato, er mwyn rhannu arfer da a dysgu gan ein gilydd.  

Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth? 

Y manteision i ddefnyddwyr ein gwasanaeth ydi un o’r prif resymau dros gynnig gwasanaeth dwyieithog. I enwi rhai manteision yn unig, mae pobl ifanc yn ei chael yn haws siarad am beth sydd ar ei meddwl yn eu hiaith gyntaf, mae’n agor drysau i ddiwylliant gwahanol, mae’n fantais enfawr i’w cyflogadwyedd ac mae’n rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgil unigryw.  

Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith? 

Roedd gwneud y cais yn gyfle i ni ystyried beth yn union oedd ein gwasanaethau Cymraeg. Roeddem yn gallu gweld beth oedd y bylchau yn ein darpariaeth Gymraeg a sut fedrwn ni weithio i wella’r pethau yma. Roedd hyn wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n gwaith oherwydd roedd gennym dargedau realistig i anelu tuag atynt a chamau clir i’w dilyn er mwyn eu cyflawni.  

Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham? 

Yn sicr. Mae’r broses yn hwylus ac mae swyddogion y Comisiynydd yn eich cefnogi drwy’r cais. Er bydd rhai o’r newidiadau yn gofyn am fuddsoddiad amser neu adnoddau, mae’r effaith hirdymor caiff y newidiadau yma yn bendant werth yr ymdrech.  

Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg? 

Ein cyngor i unrhyw sefydliad sydd yn ystyried gweithio tuag y Cynnig Cymraeg fyddai i sicrhau fod pob aelod o staff yn ymwybodol eich bod yn gweithio tuag at dderbyn y Cynnig Cymraeg a be fydd hyn yn ei olygu i’r sefydliad ac i’r staff. Mae hyn yn golygu bod pawb yn ymwybodol o be fydd yn newid, a bod pawb yn gweithio tuag at yr un nod.