Plant yn gwneud celf

Elusen gelfyddydau cymunedol egnïol yw SPAN, wedi’i lleoli yn Arberth gyda hanes 30 mlynedd o ddod â’r celfyddydau i Sir Benfro wledig. Darllenwch am eu profiad o dderbyn y Cynnig Cymraeg isod. 

Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n cynnig?  
Mae SPAN yn sefydliad dwyieithog balch gyda staff, aelodau bwrdd, gwirfoddolwyr, ac artistiaid sy’n siarad Cymraeg. Mae gennym raglenni Cymraeg a dwyieithog. 

Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi? 

Mae'r Gymraeg yn ganolog i'n cymuned. Mae 25.2% o boblogaeth Sir Benfro yn siarad rhywfaint o Gymraeg, sy’n codi i 70.6% o’r boblogaeth mewn ardaloedd yng ngogledd y Sir, rhai o'r dwyseddau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gyfan. Mae'r iaith yn rhan o'r bobl a'n diwylliant. 

Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd. 

Fe ddechreuon ni ddatblygu ein cynllun fel ffordd o ffurfioli ein hymrwymiad i’r Gymraeg, a mabwysiadwyd templed sydd ar gael gan y Comisiynydd. 

Adolygwyd y cynllun hwnnw ar ôl covid. Cawsom help gydag ychydig o adrannau a thrafodwyd y cynllun yn ei gyfanrwydd. 

Y flwyddyn ganlynol, fe ddiweddarom adrannau a'i gyflwyno eto. Argymhellwyd ein bod yn agos i dderbyn y Cynnig Cymraeg. Unwaith eto gyda chymorth tîm Hybu’r Comisiynydd, diweddarwyd ein cynllun, a chyflwynom fersiwn newydd i'w gymeradwyo. 

Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg? 

I SPAN mae'n ddatganiad clir a chyhoeddus o'n hymrwymiad i'r Gymraeg. Mae’n hawdd dweud eich bod yn gefnogol ac yn cynnig gwasanaethau Cymraeg ond mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn ei gwneud yn amlwg, ac yn dangos ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn ei addo. 

Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg? 

Fe wnaeth y gefnogaeth a gynhigiwyd fel rhan o'r broses ein helpu i adolygu a chryfhau ein gwaith ymhellach. 

Mae hefyd yn nod ansawdd defnyddiol ar gyfer ein gwaith gyda phartneriaid a chyllidwyr i ddangos ein hymrwymiad. 

Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth? 

Mae ein cymuned yn cael y cyfle i ymwneud â chelfyddydau a diwylliant yn eu dewis iaith. Mae gweithio’n ddwyieithog a gydag artistiaid Cymraeg eu hiaith yn magu syniadau newydd a chydweithrediadau creadigol i’n cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, a’n cymuned ymgysylltu â nhw. 

Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith? 

Mae wedi ein helpu i wneud ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn gyhoeddus. 

Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham? 

Yn bendant, mae’r gefnogaeth a’r cyngor a gynigir ynghyd â’r hyder y mae’n ei roi i chi wrth ei dderbyn wedi bod yn help mawr i’n gwaith. 

Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg? 

Ewch i mewn iddo gyda pharodrwydd i ddysgu, mae'r broses yn ymwneud â deall lle gallwch wella a dathlu'r camau rydych chi wedi'u cymryd. Ceisiwch beidio a meddwl amdano fel rhywbeth sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Mae’n cyffwrdd â phob rhan o’n gwaith, o’n recriwtio a’n gwaith hyrwyddo, i’n rhaglenni a chyfansoddiad y bwrdd, ac mae pob elfen yn gryfach o’i herwydd.