Logo Comisiynydd y Gymraeg

Mewn cynhadledd i’w chynnal yng Nghaerdydd heddiw (8 Gorffennaf) bydd dros 200 o gynrychiolwyr sefydliadau sydd yn gweithredu yng Nghymru yn dod at ei gilydd i drafod sut i ddatblygu a gwella’r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.

Digwyddiad yw hwn sydd wedi ei drefnu ar y cyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyda’r nod o rannu arfer da a hyrwyddo dulliau newydd o weithio sy’n rhoi’r Gymraeg wrth galon bywyd gwaith.

Yn ôl Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, mae yna awydd mawr i gael y drafodaeth hon, 
“Yn ein cynllun strategol pum mlynedd rydym wedi adnabod datblygu’r Gymraeg yn y gweithle fel un o’n tri maes blaenoriaeth. Rydym yn gweld hwn fel maes allai wneud gwahaniaeth sylweddol i’r defnydd o’r Gymraeg a’i gwneud yn iaith naturiol i’w defnyddio o ddydd i ddydd mewn sefydliadau ar draws Cymru.

“Wrth i ni edrych ymlaen i'r blynyddoedd nesaf, mae’n bwysicach nag erioed bod sefydliadau’n rhoi’r Gymraeg wrth galon eu gweithredu. Mae’n braf, felly, gweld y diddordeb sylweddol yn y gynhadledd hon, a’r parodrwydd i gydweithio er mwyn datblygu cynlluniau newydd i’r dyfodol.”

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol,
“Mae'r Ganolfan yn arbenigo mewn dysgu a chaffael iaith, ac mae wedi gweld twf aruthrol yn nifer y bobl sy'n manteisio ar ei gwasanaethau amrywiol.  Yn 2023-24, cyhoeddwyd bod 18,330 o bobl wedi cwblhau ei chyrsiau, cynnydd o 45% ers sefydlu’r Ganolfan yn 2016. 

“Un o feysydd strategol y Ganolfan yw cefnogi gweithluoedd i gynyddu defnydd o'r Gymraeg, ac mae’n gwneud hynny trwy’r cynllun Cymraeg Gwaith, a sefydlwyd yn 2018.  Dyma un o raglenni mwyaf llwyddiannus y Ganolfan, ac mae dros 2,000 o gyflogwyr wedi elwa ohoni.  Mae’n cwrdd â gofynion amrywiaeth o weithleoedd a sectorau, gan gynnwys Iechyd a Gofal, a Chwaraeon.  Yn fwy diweddar, mae'r Ganolfan yn arwain ar raglen Dysgu Cymraeg genedlaethol ar gyfer y Gweithlu Addysg. 

“Trwy weithio’n bartneriaethol, edrychwn ymlaen at ddenu hyd yn oed yn fwy o bobl at y Gymraeg, a’u cefnogi i ddefnyddio a mwynhau’r iaith yn eu gwaith a’u bywyd bob dydd.”

Cynhelir y gynhadledd yn stadiwm pêl-droed Dinas Caerdydd a disgwylir dros 200 o fynychwyr yno. 

Un o’r cyfranwyr fydd Manon Humphreys o Amgueddfa Cymru fydd yn sôn am sut mae’r Gymraeg yn greiddiol i’w gwaith,
“Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i gyfrannu i’r gynhadledd bwysig hon ac yn gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn cael ei chynnal. Mae’n braf i ni fel sefydliadau allu dod at ein gilydd er mwyn dysgu gwersi ac adnabod syniadau newydd am sut i gynnwys a hyrwyddo’r Gymraeg yn ymarferol yn ein lleoliadau gwaith.

“Y nod i fi fydd i gyflwyno ein gobaith ni o ran y Gymraeg yn Amgueddfa Cymru, tra ar yr un pryd yn clywed gan eraill am eu cynlluniau a gobeithio y bydd yn arwain at bartneriaethau neu gyfleoedd newydd – all ond fod yn llesol i’r Gymraeg.”