Y tu allan i adeilad Senedd Cymru

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu’r ymrwymiad yng Nghytundeb Cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu hawliau i ddefnyddio’r iaith ac i gymryd camau pellach er mwyn gwireddu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Cytundeb Cydweithio rhwng y ddwy blaid a gyhoeddwyd ddoe (22 Tachwedd 2021), yn cynnwys polisi i ehangu safonau'r Gymraeg i ragor o sectorau, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, cwmnïau dŵr, a chyrff cyhoeddus eraill. Mae ymrwymiad hefyd i ddechrau’r gwaith o gyflwyno safonau i gymdeithasau tai, i’w gwblhau yn ystod tymor y Senedd.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: ‘Mae tystiolaeth glir bod safonau’r Gymraeg wedi arwain at wella profiadau pobl wrth ddefnyddio gwasanaethau. Mae’r safonau hefyd wedi arwain at greu sefyllfa lle mae gan weithwyr ragor o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn eu gwaith, lle cymerir perchnogaeth ar lefel sirol dros hybu’r defnydd o’r Gymraeg a lle mae dyletswydd i ystyried yr iaith mewn penderfyniadau polisi.

‘Yn fy argymhellion maniffesto i’r pleidiau gwleidyddol cyn Etholiad y Senedd, gelwais am gynnal y momentwm er mwyn sicrhau cysondeb ar draws sefydliadau, a bod y Llywodraeth yn ailafael yn y broses o osod safonau ar y cyfle cyntaf gan ddod â nifer cynyddol o sefydliadau o dan y gyfundrefn honno.

‘Rwy’n croesawu gweld yr ymrwymiad i wneud hyn yn y Cytundeb Cydweithio, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth i sicrhau bod y gwaith o gyflwyno safonau i ragor o sectorau yn dechrau yn ddi-oed.’

Ar 7 Rhagfyr 2021, bydd y Comisiynydd yn cynnal Diwrnod Hawliau’r Gymraeg i ddathlu a thynnu sylw at gyfraniad safonau tuag at wella profiadau siaradwyr Cymraeg.

Mae’r Cytundeb Cydweithio hefyd yn adlewyrchu nifer o argymhellion maniffesto eraill y Comisiynydd, gan gynnwys: cynyddu cyfran y gweithlu addysg sy’n gallu addysgu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg; symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol, gan sicrhau cynnydd yng nghyfran y cwricwlwm a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg; cynyddu cyfran y prentisiaethau ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg; diogelu a gwarchod enwau lleoedd Cymraeg a gweithredu i leihau faint o dai sy’n cael eu prynu fel ail gartrefi neu gartrefi gwyliau.

Ychwanegodd Aled Roberts: ‘Rwy’n croesawu gweld yr argymhellion hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Cytundeb Cydweithio, ac yn edrych ymlaen at weld y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau a fydd yn arwain at greu’r hinsawdd i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r ganran sy’n defnyddio’r iaith yn ddyddiol.’

Diwedd.

Hawlfraint llun: Senedd Cymru.