Yn dilyn nifer o achosion yn ddiweddar am y trafferthion o ddisgyblion ôl 16 oed yn methu â chael trafnidiaeth am ddim i ddarpariaeth addysg Gymraeg mae Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price, yn amlinellu ei hymateb yma,

“Gwraidd y problemau sy’n codi ynghylch cludiant i addysg cyfrwng Cymraeg yn benodol yw bod llai o ysgolion a sefydliadau addysg cyfrwng Cymraeg o’u cymharu ag ysgolion a sefydliadau cyfrwng Saesneg. Ar gyfartaledd felly, mae mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn anoddach ac yn fwy costus gan fod disgyblion yn debygol o fyw yn bellach oddi wrth yr ysgolion neu sefydliadau hyn.

“Mae’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i raddau’n gwneud yn iawn am y sefyllfa anghyfartal hon ond mae’r achosion amrywiol sy’n ein cyrraedd ni yn amlygu gwendidau yn y mesur ac yn dangos bod trefniadau cludiant yn gallu cael effaith sylweddol ar ddysgwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng Cymraeg.

“Mae’r gwendidau hyn yn gynyddol arwyddocaol yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw, ac rwyf yn pryderu y gallai olygu bod rhai teuluoedd yn penderfynu peidio â dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant oherwydd y gost ychwanegol.

“Yn dilyn Adolygiad o Deithio gan Ddysgwyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gasgliadau ac argymhellion yr adolygiad ym mis Mawrth eleni ac roeddem yn falch o'r cyfle i gyfrannu at yr adolygiad hwnnw. Prif gasgliad yr adolygiad oedd bod nifer o wendidau yn y Mesur, a bod angen datblygu rhaglen ehangach o waith sy’n cynnwys diwygiad llwyr o’r Mesur, gan gynnwys edrych yn fanylach ar ddarpariaeth cludiant i addysg cyfrwng Cymraeg, a darpariaeth ôl-16 yn gyffredinol.

“Tra’n derbyn ac yn cefnogi yr angen i ddatblygu rhaglen ehangach o waith, bydd hynny yn cymryd cryn amser i’w weithredu, ac yn ein cyfraniad fe wnaethom awgrymu y gellir cyflwyno rhai newidiadau yn unionsyth er mwyn gallu gwireddu gweledigaeth y Llywodraeth o hwyluso mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.

“Rwy’n gofyn felly i Lywodraeth Cymru gyflwyno amserlen bendant ar gyfer y gwaith o ddiwygio’r Mesur, ond yn y cyfamser, iddynt hefyd ystyried ymrwymo i ddarparu cludiant am ddim i addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg a hyn fel rhan o ymrwymiad ehangach i ddarparu cludiant am ddim i addysg ôl-16 yn gyffredinol.”

“Byddai gwneud y fath newidiadau yn hwyluso mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac yn darparu cefnogaeth hollbwysig i deuluoedd yn ystod y cyfnod heriol hwn.”