Mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (1 Mehefin) bydd Comisiynydd y Gymraeg a’r Comisiynydd Plant yn uno i ofyn am wella’r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy’r Gymraeg.

Maent yn galw, mewn papur polisi ar y pwnc, ar i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu’r gwaith o drefnu adolygiad cenedlaethol o’r maes a’r ddarpariaeth gaiff ei gynnig ar hyn o bryd drwy’r Gymraeg.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, fydd y sefyllfa ddim yn newid dros nos ond mae angen cychwyn ar y gwaith nawr,

“Ar hyn o bryd mae gan tua 20% o ddisgyblion Cymru anghenion dysgu ychwanegol, sydd yn ganran sylweddol ac mae angen sicrhau fod gofynion y disgyblion hynny sydd yn derbyn eu haddysg drwy’r Gymraeg yn cael eu hystyried yn llawn. Ar hyn o bryd dyw’r system sydd yn bodoli yng Nghymru ddim yn adlewyrchu ein bod yn wlad  ddwyieithog ac mae angen mynd i’r afael â hynny.

“Tra bod ein hargymhellion yn y papur yn rhai heriol, yn enwedig o ran y gweithlu, mae angen rhoi ystyriaeth iddynt yn fuan, yn enwedig o gofio am y Bil Addysg arfaethedig sydd ar waith ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen i gael trafodaethau pellach er mwyn sicrhau y gwasanaethau gorau i’n plant a’n pobl ifanc.”  

Ategodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes,

“Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i addysg a gan ein bod yn wlad ddwyieithog, mae ganddyn nhw’r hawl i dderbyn yr addysg hynny yn yr iaith o’u dewis. Dwi’n bryderus iawn bod yna blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ddim yn cael mynediad i addysg Gymraeg neu ddim yn derbyn y gefnogaeth briodol, a dyma pam roeddwn yn awyddus gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i oleuo’r gwir am y sefyllfa.

“Fel y nodwn yn ein papur mae ‘na enghreifftiau o arfer da i’w gweld o awdurdodau lleol yn gweithio ar y cyd er mwyn cynnig gwasanaeth safonol ond nid yw hynny yn gyson ar draws Cymru. Mae angen gweithredu felly er mwyn sicrhau nad yw’n plant a’n pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o’u hawliau sylfaenol.”

Mae wedi bod yn ofynnol i awdurdodau lleol greu cynlluniau strategol ar gyfer y Gymraeg mewn addysg. Mae nifer o’r rheiny yn cynnwys enghreifftiau o arfer da wrth ddelio ag anghenion dysgu ychwanegol, ond maent yn aml yn digwydd yn ynysig ac nid oes proses i rannu arfer da yn ehangach.

Un enghraifft o’r arfer dda a welwyd yw Canolfan yr Eithin, canolfan arbenigol yn sir Gaerfyrddin sydd yn darparu cefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol fel yr eglura’r pennaeth Llinos Watkins,

“Sefydlwyd Canolfan yr Eithin gan Adran Gynhwysiant Sir Gar ar safle ysgol Maes y Gwendraeth gyda’r nod o gynnig adnodd cefnogol a chynhwysol a hynny’n naturiol drwy’r Gymraeg. Mae’n adnodd hynod o werthfawr yn yr ardal hon ond mae’n bwysig pwysleisio bod angen ystyried yr angen ymhob ardal unigol ac ymateb i’r galw yn addas ac yn briodol.

“Mae’r mwyafrif o’n disgyblion yn byw eu bywydau yn naturiol drwy’r Gymraeg ac mae’n hollbwysig felly sicrhau fod y ddarpariaeth ar eu cyfer yn cael ei gynnig drwy eu mamiaith.”

Mae’r Comisiynwyr yn galw ar:

  • Awdurdodau lleol i adolygu eu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) drwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio’r wybodaeth hynny i ddiweddaru eu cynlluniau strategol ADY ;
  • Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ei adolygiad pum mlynedd ar ddarpariaeth ADY drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Datblygu cynigion ar drefniadau cydweithio rhwng awdurdodau lleol.

Gallwch ddarllen y papur yn llawn yma.