Creonau ar y bwrdd

Bydd Celf ar y Blaen, sefydliad sy’n gweithio ar brosiectau celfyddydol yn y gymuned yn ardal Cymoedd y De Ddwyrain, yn cynnal gweithdy ysgrifennu creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg ar 26 Mai. Bydd y gweithdy ar-lein, o dan ofal y chwedleuwraig broffesiynol Tamar Eluned Williams, yn rhan o amserlen Gŵyl y Gelli. 

Mae’r gweithdy hwn, sydd ar gyfer plant rhwng 4 ac 11 oed, yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau cyfrwng Cymraeg sydd bellach yn cael eu trefnu gan Celf ar y Blaen. Cymaint yw ymrwymiad y sefydliad i’r iaith, fel y bu iddynt dderbyn cydnabyddiaeth swyddogol y Cynnig Cymraeg gan y Comisiynydd. 

Mae’r Cynnig Cymraeg yn gynllun gan Gomisiynydd y Gymraeg i gynyddu’r defnydd o’r iaith gyda busnesau ac elusennau.  Dechreuwyd y cynllun er mwyn rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i sefydliadau sy’n gallu profi i’r Comisiynydd eu bod yn darparu gwasanaethau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Meddai Sioned Birchall, Swyddog Hybu a Hwyluso gyda Chomisiynydd y Gymraeg, ‘Rydyn ni’n ymfalchïo yn y bartneriaeth sydd wedi datblygu rhyngom a sefydliad Celf ar y Blaen, ac yn gyffrous bod plant Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bwysig iawn datblygu cyfleon fel hyn i blant gael defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.’

Ychwanegodd, ‘Rydym yn cydweithio gydag ystod o sefydliadau sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg gennym, ac yn edrych ymlaen at gael cydweithio â nifer o gwmnïau ac elusennau eraill yn y dyfodol. O fod yn rhan o’r Cynnig Cymraeg rydym eisiau gweld pobl o bob cwr o Gymru yn defnyddio’r ystod o wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw drwy gyfrwng y Gymraeg.’

Yn ôl Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Creadigol Celf ar y Blaen, ‘Mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn bwysig i ni. Mae’n hanfodol ein bod yn medru ymgysylltu â’r bobl yn ein cymunedau sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg. Mae’r Cynnig Cymraeg yn dangos ein bod ni’n ymrwymo i ddatblygu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r prosiect hwn yn anelu at addysgu plant am fioamrywiaeth a newid hinsawdd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mae’r prosiect diweddaraf hwn yn cynnwys llyfr stori, yn ogystal â darparu hyfforddiant ac adnoddau i athrawon yn y ddwy iaith. Rydym yn edrych ymlaen at fedru cynnig y gweithdy yn rhan o amserlen Gŵyl y Gelli sy’n ŵyl ryngwladol a phoblogaidd.’

Am fwy o wybodaeth, ac er mwyn archebu lle ar y gweithdy a fydd yn cael ei gynnal am 9yb ar 26 Mai ewch i wefan Gŵyl y Gelli i archebu eich tocyn am ddim.

Hay Festival 2021 - Hay Festival