Logo Cynnig Cymraeg a chyfeiriad gwe Comisiynydd y Gymraeg

Ar 1 Mehefin, bydd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal diwrnod arbennig i ddathlu llwyddiant y busnesau a’r elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg.  

Mae busnesau amlwg y stryd fawr fel Boots a Principality, ac elusennau fel Mind Cymru a Macmillan Cymru, ymysg yr elusennau sydd wedi derbyn y gydnabyddiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg. Ar 1 Mehefin bydd cyfle i ddathlu’r diwrnod am y tro cyntaf ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.  

Datblygwyd cynllun y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael gwybod pa wasanaethau Cymraeg sydd ar gael ar eu cyfer. Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol. 

Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i Gynnig Cymraeg 55 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda thros gant o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau.  

Yn ôl Rheolwr Boots yng Nghymru, Andy Francis: ‘Roedd cydweithio â thîm y Comisiynydd i greu ein Cynnig Cymraeg yn broses bositif iawn. Rydym yn gweld y Gymraeg fel sgil ddefnyddiol iawn i’r bobl sy’n gweithio yn Boots; ac mae’n arfer gennym i hysbysebu swyddi gwag yn ddwyieithog. Rydym yn hynod falch fod llawer o’n fferyllwyr yn gallu siarad Cymraeg ac yn medru rhoi cyngor i gwsmeriaid yn eu dewis iaith.’ 

Un elusen fydd yn rhan o’r dathliadau ar y diwrnod fydd Clybiau Plant Cymru, y corff sy’n cynrychioli Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru. Dywedodd Jane O’Toole, Prif Weithredwr yr elusen: ‘Rydym wrth ein boddau fod swyddfa’r Comisiynydd yn cydnabod ein Cynnig Cymraeg. Mae ein haddewid yn golygu cynyddu’r cyfleoedd i rieni ddewis gofal plant cyfrwng Cymraeg a bod mwy o gyfleoedd i blant chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg - sy’n hollbwysig ar gyfer gwireddu’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg.’ 

Esgobaeth Bangor yw elusen arall sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth i’w Cynnig Cymraeg – esgobaeth sy’n ymestyn o Ynys Môn i Bowys. Dywedodd Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru, Esgob Bangor: ‘Mae defnyddio’r Gymraeg yn rhan annatod a naturiol o’n bywyd bob dydd. Mae’r cynllun wedi’n helpu ni i sicrhau fod pawb yn gallu cyfathrebu gyda ni ac addoli gyda ni yn eu dewis iaith, ac mae hyn yn ofnadwy o bwysig i ni. 

‘Byddwn yn annog unrhyw sefydliad i geisio am y Cynnig Cymraeg - mae’r broses wedi bod yn un hwylus gyda llawer o gefnogaeth barod ar gael gan swyddfa’r Comisiynydd.’  

Dywedodd Awel Trefor, Uwch Swyddog Hybu yn swyddfa’r Comisiynydd: ‘Mae cynnal diwrnod y Cynnig Cymraeg yn gyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg. Y nod yw gweld cynnydd mewn ymwybyddiaeth yn arwain at gynnydd mewn defnydd o wasanaethau Cymraeg. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu sefydliadau sydd wedi cwblhau eu Cynnig Cymraeg i dderbyn tystysgrif ar ein stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd.’ 

Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg, ar gael yma